Wystrys brodorol Sir Benfro.
World is your Oyster for native Pembrokeshire Oysters.
Pontŵn Iard Gychod Rudder yn Aberdaugleddau yw'r safle ar gyfer gwesty wystrys brodorol - sy'n ceisio gwrthdroi'r dirywiad yn nifer yr wystrys brodorol.
Mae niferoedd wystrys brodorol Prydain wedi dirywio'n ddramatig dros y degawdau, o ganlyniad i golli cynefinoedd, llygredd, gorgynaeafu a chlefydau.
Yn ystod ymweliad diweddar â Sir Benfro, gwelodd y Dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, y gwesty wystrys, sy'n rhan o brosiect i helpu i adfer eu niferoedd a chryfhau'r ecosystem forol yn Sir Benfro.
O dan y pontŵn ar Iard Gychod Rudders fe welodd y Dirprwy Brif Weinidog y cewyll wystrys - lle cedwir wystrys fel stoc mag i ryddhau larfa i'r aber i hybu'r boblogaeth bresennol.
Mae'r gwaith yn rhan o'r bartneriaeth adfer natur uchelgeisiol 4 blynedd Natur am Byth a gydlynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), i achub rhywogaethau mwyaf bregus Cymru. Mae'r prosiect adfer wystrys brodorol yn cael ei arwain gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol o fewn y bartneriaeth. Nod y prosiect yw adfer stoc mag wystrys brodorol ac, yn y pen draw, gwelyau wystrys o fewn dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae'n cynnwys rhaglen wyddoniaeth dinasyddion wystrys a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy.
Mae'r prosiect yn cydweithio'n agos â Phrifysgol Bangor, a bydd ymchwil magu wystrys brodorol yn gweld 200,000 o wystrys ifanc yn cael eu defnyddio i hybu'r gweithgareddau adfer ym mis Chwefror 2025. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Swyddog ACA Forol Sir Benfro a Tethys Oysters ym Mae Angle, ac mae'n rhan o Tirweddau Cynaliadwy, Mannau Cynaliadwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru - Elfen Carbon Glas Rhaglen Arfordir Gwyllt Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, "Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall sefydliadau amgylcheddol, gwirfoddolwyr a busnesau lleol helpu i warchod ac adfer rhywogaethau prin a hefyd gysylltu ein cymunedau gyda natur.
"Mae'r prosiect hwn hefyd yn dangos sut mae adfer natur yn darparu swyddi gwyrdd, yn cefnogi economïau lleol a thwf cynaliadwy mewn ardaloedd lleol i bobl leol.
"Mae'n ysbrydoli rhywun i weld y llwyddiant y mae'r tîm wedi'i gael ar y safle hwn ac dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy am ddatblygiadau yn y dyfodol."
Dywedodd Sue Burton, Cydlynydd Rhanbarthol Sir Benfro Natur am Byth ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol, "Mae'r gwaith wystrys brodorol hwn yn gam pwysig i adfer ein hamgylchedd morol. Ar un adeg roedd aber Afon Cleddau yn Sir Benfro yn gartref i gymuned lewyrchus o wystrys brodorol, rhywogaeth sy'n gallu adeiladu strwythurau riffiau naturiol pan fydd niferoedd uchel a gwella ansawdd dŵr trwy hidlo cannoedd o litrau o ddŵr y dydd. Trwy gryfhau'r boblogaeth wystrys frodorol, gobeithiwn roi hwb i adfer adeiladwr yr ecosystem naturiol hon".
Meddai John Clark, rheolwr rhaglen Natur am Byth, "Mae ein partneriaeth adfer rhywogaethau yn cael ei gyrru gan gydweithio i achub anifeiliaid, planhigion a ffyngau sydd mewn perygl o fethu goroesi yng Nghymru. Mae sgiliau pob un o'r naw elusen a CNC wedi dod at ei gilydd i ysbrydoli gweithredu lleol dros natur mewn cymunedau ledled Cymru. Mae rhyddhau y wystrys brodorol hyn yn un o'n prosiectau mwyaf uchelgeisiol o fewn y bartneriaeth, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth busnesau lleol a dyframaethu sydd wedi'i leoli yma yng Nghymru."