Newyddion
Canfuwyd 66 eitem, yn dangos tudalen 1 o 6
Gofodau bob dydd yn allweddol i ffyniant y Gymraeg
Dylai'r Gymraeg fod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd ledled Cymru – mewn gweithleoedd, clybiau chwaraeon, ar-lein ac mewn cymunedau lleol – er mwyn i’r Gymraeg am ffynnu at y dyfodol.
Enwau lleoedd cudd Cymru yn dod i'r amlwg
Mae enwau lleoedd hanesyddol sydd heb eu cofnodi hyd yma yn cael eu casglu mewn sesiynau cymunedol, gan ychwanegu at restr genedlaethol o fwy na 715,000 o gofnodion.
Cymru i greu safonau newydd ar gyfer llety gwyliau
Mae'r Senedd wedi pasio Bil i gefnogi datblygiad twristiaeth yng Nghymru a gwella llety ymwelwyr.
Ap newydd yn rhoi cerddoriaeth Gymraeg fyw yn dy boced
Mae platfform ar-lein poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth fyw Gymraeg yn ehangu, gyda lansiad ap symudol newydd Awni?
Dathlu 850 mlynedd o'r Eisteddfod ac ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd
Yr haf hwn, bydd cyfres o ddathliadau arbennig yn nodi 850 mlynedd ers i’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf gael ei chynnal, gan greu cyfle i ymfalchïo yn hanes diwylliannol Cymru ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg.
Anrhydeddu'r canwr o fri Max Boyce a'r pêl-droediwr Jess Fishlock yng Ngwobrau Dewi Sant
Mae seren Cymru Max Boyce MBE a phêl-droediwr sydd a'r nifer mwyaf o gapiau dros Gymru, Jess Fishlock MBE, wedi cael eu dathlu yng Ngwobrau Dewi Sant eleni.
Cymuned yn sicrhau dyfodol capel eiconig ‘Cwm Rhondda’
Mae Capel Rhondda, man geni un o emynau mwyaf adnabyddus Cymru, Cwm Rhondda, bellach yn ddiogel yn nwylo'r gymuned. Ar ôl cyfnod ansicr, mae’r hen gapel Bedyddwyr yn dechrau pennod newydd yn ei hanes, diolch i ymgyrch gan y gymuned i godi arian i brynu'r adeilad, law yn llaw â chefnogaeth drwy gynllun Perthyn, Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddi rhyddhad ardrethi ychwanegol i dafarndai a bwytai
Bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru yn elwa o gymorth ardrethi busnes ychwanegol. Dyna gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cyllid.
Bancio'r stryd fawr yn ôl yn Ystradgynlais
Mae gan drigolion Ystradgynlais fynediad at wasanaethau bancio wyneb-yn-wyneb ar eu stryd fawr unwaith eto wedi i ganolfan fancio a rennir newydd agor yn y dref.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol
Bydd Cyllideb Derfynol 2026-27 yn darparu £1.2bn yn fwy ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau ar draws Cymru nag yn y flwyddyn ariannol hon.