Newyddion
Canfuwyd 57 eitem, yn dangos tudalen 3 o 5
Ymchwil newydd yn canfod tueddiadau cryf tuag at enwau lleoedd Cymraeg
Mae ymchwil ar sut mae enwau eiddo, strydoedd a busnesau yn newid ledled Cymru yn dangos newid clir tuag at ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg.
Ysgol yng Ngheredigion yn croesawu taith addysg cyfrwng Cymraeg
Bu Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, ar ymweliad ag Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, a chanmolodd y cynnydd y mae wedi'i wnaed tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.
Cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â bwlch costau Yswiriant Gwladol uwch
Bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael arian ychwanegol i helpu i dalu costau Yswiriant Gwladol uwch eleni.
Cymunedau Cymraeg eu hiaith i gael cymorth wedi'i dargedu i gryfhau'r Gymraeg
Bydd ardaloedd sydd â nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn cael cymorth ychwanegol i gryfhau'r iaith yn ein cymunedau, ar ôl i Weinidogion dderbyn argymhellion adroddiad.
Cynlluniau i dorri ardrethi busnes ar gyfer siopau manwerthu llai
Mae cynlluniau i newid ardrethi busnes yng Nghymru, gan roi ardreth is i siopau llai, yn cael eu hystyried.
Rhoi'r cyfle i bob plentyn allu siarad Cymraeg yn hyderus
Mae'r Senedd wedi pasio deddfwriaeth nodedig i roi cyfle i bob plentyn ledled Cymru allu siarad Cymraeg yn hyderus, waeth beth fo'u cefndir neu iaith yr ysgol y maent yn ei mynychu.
Cynnig rheolau newydd ar gyfer casglu'r dreth gyngor yn decach
Mae newidiadau posibl ar y gweill i helpu pobl sy'n cael trafferth talu eu bil treth gyngor ar amser.
Llwyfan darllen Cymraeg newydd yn helpu dysgwyr i ynganu geiriau yng Nghymru a thu hwnt
Mae llwyfan newydd yn helpu plant i ddarllen Cymraeg, hyd yn oed os nad yw eu rhieni'n gallu gwneud hynny, trwy eu dysgu sut i ynganu geiriau.
Heol yn Nhreorci wedi'i thrwsio diolch i gyllid gan y Llywodraeth
Gall cynghorau gael hyd at £120 miliwn i drwsio rhagor o ffyrdd lleol dros y ddwy flynedd nesaf, i ddatrys ffyrdd problemus yn eu hardal.
Prosiect tai fforddiadwy Ceredigion yn ennill grant
Mae cymuned yng Ngheredigion wedi elwa ar £8,500 i ddatblygu tai yn eu hardal leol.
Prentisiaid yr Urdd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn y Gymraeg
Mae prentisiaid o'r Urdd yn helpu i ysbrydoli disgyblion mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i ddefnyddio mwy o Gymraeg drwy glwb chwaraeon wythnosol.
Y lefel uchaf erioed o gyllid ar gyfer gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru
Mae bron i £34m o fuddsoddiad i gyflawni gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru yn cynrychioli'r rhaglen ddiogelwch fwyaf hyd yma.