English icon English

Bron i draean o boblogaeth Cymru yn gwirfoddoli, yn ôl canlyniadau arolwg newydd

Almost a third of Wales volunteering according to new survey results

Dywedodd 32% o bobl eu bod wedi gwirfoddoli, gan effeithio ar fywydau miloedd o bobl yn eu cymunedau.

Ers mis Ebrill 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £4.6m mewn mentrau gwirfoddoli, gan agor y drws i fwy na 419,000 o oriau o wirfoddoli a hyfforddiant a gofnodwyd ar gyfer 6,710 o bobl ledled Cymru.

Daw'r ffigurau newydd sy'n edrych ar wirfoddoli wrth i'r canlyniadau diweddaraf o Arolwg Cenedlaethol Cymru gael eu cyhoeddi heddiw.

Drwy gydol 2024-25, holwyd sampl gynrychioliadol o drigolion Cymru am wahanol agweddau ar eu bywydau, gan gynnwys eu defnydd o'r rhyngrwyd, eu canfyddiadau o'u cymuned leol, a'u defnydd o'r Gymraeg.

Isod, ceir rhai o'r canlyniadau eraill:

  • Dywedodd 96% o bobl eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd (gartref, yn y gwaith, neu mewn mannau eraill), cynnydd o 93% yn 2022-23.
  • Dywedodd 42% o bobl mewn gwaith eu bod yn gweithio o bell am rywfaint neu'r cyfan o'u horiau gwaith, o'i gymharu â 34% yn 2022-23.
  • Adroddodd 94% o bobl 2 neu fwy o ymddygiadau iach, sy'n cynnwys peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau, cynnal pwysau iach, bwyta pum dogn o ffrwythau neu lysiau, a bod yn egnïol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:

"Mae canfyddiadau'r arolwg hwn yn rhoi tystiolaeth werthfawr inni o'r hyn sy'n bwysig i bobl. Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i lywio ein polisïau a sicrhau bod ein penderfyniadau yn adlewyrchu profiadau go iawn cymunedau Cymru."