Cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â bwlch costau Yswiriant Gwladol uwch
Extra funding to support higher National Insurance costs gap
Bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael arian ychwanegol i helpu i dalu costau Yswiriant Gwladol uwch eleni.
Mae’r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr yn golygu’r canlynol:
- Costau ychwanegol gwerth £257m i’r sector cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn.
- Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid gwerth £185m, gan adael diffyg o £72m.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid ychwanegol gwerth £36m i helpu i ariannu’r bwlch.
- £220m yw cyfanswm y pecyn ariannu, a fydd yn mynd i’r afael â thua 85% o gostau cynyddol gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Rydyn ni’n diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol drwy ddefnyddio cyllid gwerth £36 miliwn o’n cronfeydd wrth gefn i helpu i fynd i’r afael â’r diffyg o ran Yswiriant Gwladol sydd wedi’i adael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cyllid, ond mae'n llai na’r costau gwirioneddol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan greu bwlch o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn.
"Rydyn ni wedi cymryd camau i geisio helpu cymaint ag y gallwn ni, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu fforddio talu’r diffyg cyfan.
"Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig drin y sector cyhoeddus yr un fath ar draws y Deyrnas Unedig a gwireddu’i haddewid i ariannu’r costau ychwanegol hyn yn llawn."
Nodiadau i olygyddion
- The increase in employer National Insurance Contributions has created an estimated cost pressure of £257m across the Welsh public sector.
- The UK Government provided £185m in funding, leaving an annual gap of approximately £73m.
- The Welsh Government's additional £36m reduces this gap to around £36m this year.
- The UK Government has provided Wales with a Barnett share of funding, instead of meeting the actual costs to the Welsh public sector.