English icon English
Mark Drakeford MS Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language (Landscape) cropped

Galw mawr am wersi Cymraeg yn Wrecsam wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal

Demand for Welsh lessons up in Wrexham as National Eisteddfod takes place

Mae'r nifer o  bobl sy'n cychwyn gwersi Cymraeg yn ardal Wrecsam ar y lefel uchaf erioed - ac oedd 640 o bobl wedi cwblhau cwrs yn 2023-24. Mae hyn yn gynnydd o 82% ers 2017-18.

Un o'r dysgwyr Cymraeg hyn yw Jonathan Lloyd, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam.  Ers dechrau gwersi Cymraeg, mae bellach yn defnyddio'r iaith yn rheolaidd  yn y gwaith. Gyda chefnogaeth ei diwtoriaid Dysgu Cymraeg, mae wedi datblygu'r hyder a'r sgiliau i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni fel rhan o grŵp llefaru.

Dywedodd: "Rwy'n defnyddio llawer ar y Gymraeg yn y gwaith. I mi, mae'n wych oherwydd mae'n bwysig defnyddio'r iaith bob dydd, hyd yn oed os yw hynny am bump neu ddeng munud.

"Bydd cystadlu yn yr Eisteddfod yn destun balchder imi, nid yn unig fel siaradwr Cymraeg newydd, ond fel Cymro sy'n dathlu ein hiaith a'n diwylliant. Alla i ddim aros i roi'r Gymraeg rydw i wedi'i ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf ar waith a siarad â phobl ar y Maes."

Diolch i bartneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae Maes D – gofod pwrpasol yr Eisteddfod i ddysgwyr Cymraeg – wedi tyfu i fod yn un o lefydd mwyaf bywiog yr ŵyl. Gall unrhyw un ymweld â Chaffi Maes D am baned a sgwrs i ymarfer eu Cymraeg gyda gwirfoddolwyr sydd hefyd yn dysgu.

Mae ail gam Comisiwn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y gall Cymraeg ffynnu mewn ardaloedd lle mae'r iaith yn cael ei siarad gan gyfran lai o'r boblogaeth, gan gynnwys Wrecsam. Mae'n archwilio ymgysylltiad pobl ifanc â'r iaith, y patrwm trosglwyddo iaith rhwng cenedlaethau a rôl Cymraeg mewn chwaraeon a bywyd bob dydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Cymraeg yw ein hiaith genedlaethol ac mae gan bob cymuned rôl bwysig yn ei dyfodol. Bydd yr ymchwil rydyn ni'n ei wneud yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi yn y dyfodol ac yn sicrhau bod cymunedau fel Wrecsam yn derbyn cefnogaeth.

"Mae Cymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dyna'n union beth rydyn ni'n ei weld trwy'r brwdfrydedd cynyddol yma. Mae'n wych gweld yr Eisteddfod yn cael ei ddathlu yn Wrecsam a llawer o ddysgwyr yn cymryd rhan ynddi."

Mae'r Eisteddfod yn parhau tan ddydd Sadwrn, gan roi cyfleoedd i bawb ddathlu diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg gyda'i gilydd.

Nodiadau i olygyddion

The National Centre for Learning Welsh leads the Learn Welsh sector.  It works with providers across Wales to offer a wide range of courses, including in the community, in workplaces and online.  New courses for beginners are starting in September.  For more information, follow the next link: September courses | Learn Welsh

The Welsh Government’s programme of events at the Eisteddfod can be found in the official Eisteddfod programme by filtering the location to Maes D. Link: Beth sy'n digwydd | Eisteddfod