Newyddion
Canfuwyd 44 eitem, yn dangos tudalen 1 o 4
Cymorth gan Lywodraeth Cymru i brosiectau Cymraeg newydd
Bydd 15 grŵp cymunedol yn cael hyd at £10,000 yr un i droi eu syniadau yn brosiectau hyfyw i gynnal y Gymraeg yn eu cymunedau.
Dwy flynedd o wersi Cymraeg am ddim: A dros 2,000 o bobl ifanc a staff ysgol yn mynd ar eu taith i ddysgu Cymraeg
Mae'r ail flwyddyn o wersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed a staff ysgolion wedi helpu hyd yn oed mwy o bobl i ddysgu'r iaith. Credir bod dros 2,000 o bobl ifanc a staff ysgol wedi manteisio ar y cynnig yn ystod 2023-24.
Technoleg yn galluogi pobl heb lais i siarad Cymraeg
Gall siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais oherwydd rhesymau meddygol fel clefyd Motor Niwron neu ganser y gwddf barhau i gyfathrebu yn Gymraeg, diolch i ddatblygiad technolegol arloesol sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg.
Perthyn: Grantiau bach ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith yn agor
Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, wedi annog grwpiau cymunedol i wneud cais am arian oddi wrth Gynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn i helpu'r Gymraeg ffynnu.
Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynllun i roi terfyn ar doriad treth i ysgolion annibynnol
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i roi terfyn ar doriad treth ar gyfer rhai ysgolion sy'n codi ffioedd.
Dysgwch sgil newydd ym mis Medi - gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc ac athrawon
Mae cynllun gwersi Cymraeg am ddim Llywodraeth Cymru yn parhau i drawsnewid bywydau pobl ifanc ac athrawon.
Cryfhau cymunedau Cymraeg
Ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch wrth wraidd argymhellion polisi newydd.
Eisteddfod i Bawb
Miloedd yn elwa o gynllun i wneud yr Eisteddfod yn hygyrch i bawb
Cyfle teg i bawb siarad Cymraeg
Bil newydd y Gymraeg ac Addysg i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.
Tafwyl yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg
Bydd miloedd o ymwelwyr yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd y penwythnos hwn i ddathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg.
ChatGPT yn dysgu Cymraeg
Partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac OpenAI i wella ChatGPT yn Gymraeg.
Gem arswyd saethwr zombie o Gymru ar frig siartiau gemau rhyngwladol
Ar ôl lansio wythnos ddiwethaf, daeth Sker Ritual, gêm arswyd gothig gyda stori gefndir yng Nghymru, yn un o'r gemau PC a chonsol a werthodd orau yn y byd. – gan gyrraedd y 3 uchaf ar Steam, y 5 uchaf ar Xbox a'r 10 uchaf ar PlayStation.