
Prosiect tai fforddiadwy Ceredigion yn ennill grant
Ceredigion affordable housing project wins grant
Mae cymuned yng Ngheredigion wedi elwa ar £8,500 i ddatblygu tai yn eu hardal leol.
Mae Deryn Du CLT wedi llwyddo i dderbyn grant gan brosiect Perthyn Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn mynd tuag at ddarparu tai fforddiadwy i hyd at 15 o deuluoedd yng Ngheredigion, a fydd yn cynnwys ardal chwarae a gardd ar gyfer bywyd gwyllt a thyfu bwyd. Mae Deryn Du CLT yn fenter nid-er-elw sy'n cael ei harwain gan y gymuned y mae'n anelu at ei gwasanaethu.
Trwy ddod o hyd i atebion ar gyfer tai, eu nod yw helpu pobl a hoffai barhau i fyw yn eu cymuned Gymraeg.
Mae'r prosiect hwn yn gobeithio sicrhau tai cymunedol fforddiadwy gan gefnogi'r Gymraeg i ffynnu yn yr ardal.
Hyd yn hyn, mae 65 o grantiau bach wedi'u dyfarnu i gefnogi a sefydlu mentrau cydweithredol cymunedol.
Mae cefnogi'r seilwaith a'r amodau cywir er mwyn i'r iaith ffynnu yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2025-26, a gyhoeddwyd heddiw. Mae'n nodi sut y bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio tuag at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd o'r iaith bob dydd erbyn 2050.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
“Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Drwy feithrin yr amodau cywir yn ein cymunedau, gallwn helpu mwy o bobl i gofleidio a mwynhau defnyddio'r iaith.
“Gall grantiau bach Perthyn wneud gwahaniaeth mawr drwy wireddu syniadau ein cymunedau.”
Cwmpas sydd yn gweinyddu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru. Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas:
"Mae'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn rhan bwysig o'n cymunedau. Mae prosiect Perthyn a'r grantiau bach wedi galluogi cymunedau i ddod o hyd i atebion i faterion allweddol fel diffyg tai fforddiadwy a cholli asedau hanfodol, creu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol sydd yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol ac yn darparu lle croesawgar i bawb ymarfer eu sgiliau iaith."
Nodiadau i olygyddion
Bydd y cynllun Gweithredu yn cael ei gyhoeddi yma am 2pm: https://www.llyw.cymru/cymraeg-2050-cynllun-gweithredu-strategaeth-y-gymraeg-2025-i-2026