Cymorth gan Lywodraeth Cymru i brosiectau Cymraeg newydd
New Cymraeg projects to get Welsh Government support
Bydd 15 grŵp cymunedol yn cael hyd at £10,000 yr un i droi eu syniadau yn brosiectau hyfyw i gynnal y Gymraeg yn eu cymunedau.
Ers ei sefydlu yn 2022, mae Perthyn, cynllun grantiau bach Llywodraeth Cymru wedi helpu 62 o brosiectau cymunedol.
Mae tref Llanrwst wedi sicrhau grant gwerth hyd at £10,000 i helpu'r gymuned leol i brynu Bys a Bawd, y siop lyfrau sydd wedi gwasanaethu'r gymuned ers 50 o flynyddoedd. Mae'r Gymraeg wedi bod yn ganolog i'r busnes, ac yn awr, mae'r gymuned yn bwriadu prynu a thrawsnewid y gofod yn ganolfan lenyddol.
Nod Perthyn yw helpu cymunedau Cymraeg sydd â niferoedd uchel o ail gartrefi drwy sicrhau cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a helpu gwead cymdeithasol y gymuned leol, ac yn naturiol, y Gymraeg sy'n rhan annatod o'r prosiectau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
"Mae grantiau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymunedau. Mae'n wych gweld cymaint o brosiectau yn y rownd hon o gyllid Perthyn, sy'n cynnwys prosiect ynni cynaliadwy a chymunedau'n dod at ei gilydd i brynu a rhedeg eu tafarnau, siopau, llyfrgelloedd a chapeli lleol i geisio sicrhau budd i'w cymunedau. Rydyn ni hefyd wedi helpu nifer o brosiectau sy'n cael eu harwain gan gymunedau i greu tai fforddiadwy i alluogi pobl i fyw yn eu cymunedau lleol."
Caiff y grant ei weinyddu gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas:
"Rydyn ni'n falch iawn o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Planed i gyflawni'r prosiect Perthyn. Mae Perthyn yn gweithio gyda'r cymunedau i nodi ffyrdd o fynd i'r afael â'r diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd. Mae gweinyddu cynllun grantiau bach ar gyfer y cymunedau i helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y syniadau'n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau yn ystod y misoedd nesaf."
Os ydych chi'n grŵp cymunedol mewn cymuned Gymraeg ac eisiau cymorth pellach i droi eich syniadau'n brosiectau hyfyw, cysylltwch â Cwmpas: Perthyn - Cwmpas
Nodiadau i olygyddion
Manylion llawn y prosiectau:
- Ymddiriedolaeth Tir Bro'r Ffynnon – £10,000 – Llanystumdwy, Gwynedd – Cymuned sy'n edrych ar dai fforddiadwy.
- Bys a Bawd Pawb – £10,000 – Llanrwst, Conwy – Cymuned sy'n edrych ar brynu a rhedeg siop lyfrau Bys a Bawd yn Llanrwst.
- Deryn Du – £8,500 – Ceredigion – Cymuned sy'n edrych ar dai fforddiadwy.
- Menter Gymunedol Llanuwchllyn – £10,000 – Gwynedd – Cymuned sy'n edrych ar dai fforddiadwy.
- Menter y Ring – £9,632 – Gwynedd – Cymuned sy'n edrych ar brynu a rhedeg tafarn Brondanw.
- Llanfywio – Ysgol Llannefydd – £10,000 – Conwy – Cymuned sy'n edrych ar ddod â'r hen ysgol i berchnogaeth y gymuned a'i thrawsnewid yn dai fforddiadwy.
- Dyffryn Peris – £9,899 – Gwynedd – Cymuned sy'n edrych ar dai fforddiadwy.
- Dyfodol Salem Gâr – £10,000 – Sir Gaerfyrddin – Cymuned sy'n edrych ar greu canolfan gymunedol.
- Hwb Penmachno – £10,000 – Conwy – Cymuned sy'n edrych ar dai fforddiadwy.
- Cwmni Nod Glas Cyf – £9,998 – Dinas Mawddwy – Busnes a arweinir gan y gymuned.
- Pwyllgor Pentra Deiniolen – £9,950 – Gwynedd – Cymuned sy'n edrych ar brynu hen adeilad y llyfrgell a'i redeg yn ganolfan gymunedol.
- Hwb Llansaint – £9,932 – Sir Gaerfyrddin – Trosglwyddo asedau i'r gymuned.
- Gweithgor Dyffryn Aeron – £10,000 – Ceredigion – Prosiect ynni a arweinir gan y gymuned.
- Canolfan Bethlehem – £10,000 – Trefdraeth – Cymuned sy'n edrych ar brynu capel i greu gofod cymunedol a thai fforddiadwy.
- Hwb Aberteifi – £9,050 – Aberteifi – Cymuned sy'n edrych ar brynu hen Gapel y Tabernacl a'i redeg yn ganolfan gymunedol.