English icon English
Urdd school event-2

Prentisiaid yr Urdd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn y Gymraeg

Urdd apprentices inspiring next generation in Welsh

Mae prentisiaid o'r Urdd yn helpu i ysbrydoli disgyblion mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i ddefnyddio mwy o Gymraeg drwy glwb chwaraeon wythnosol.

Mae Yusuf Billie a Hudhayfah Arish yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd fel prentisiaid ar gyfer mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru. Mae eu clwb chwaraeon yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg drwy weithgareddau cymunedol.

Mae prentisiaethau drwy'r Urdd yn helpu i adeiladu gweithleoedd dwyieithog drwy gynnig cyfleoedd i unigolion ddysgu, datblygu'n bersonol ac yn gymdeithasol, a gwella eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Mae Adran Brentisiaethau'r Urdd wedi ymrwymo i ysbrydoli teithiau gyrfa pobl, gan gynorthwyo cyflogwyr i ddatblygu staff cymwys a diwallu'r angen am weithlu sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r ddau brentis sy'n rhedeg y clwb yn newydd i'r iaith, ar ôl mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Maen nhw bellach yn cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg dyddiol drwy'r Urdd a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r dull arloesol o ddysgu Cymraeg wrth wneud prentisiaeth yn helpu i greu gweithlu dwyieithog ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Yusuf Bille, Prentis Amrywiaeth a Chynhwysiant Datblygu Chwaraeon yn yr Urdd sy'n cefnogi nod y mudiad o ymgysylltu â chymunedau sy'n cael eu tangynrychioli yng Nghaerdydd: “Dw i wedi bod dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner nawr, ac yn gallu dweud gyda llaw ar fy nghalon fod dysgu’r Gymraeg wedi agor drysau i fi. Dw i’n datblygu sgiliau newydd, ennill profiadau gwerthfawr a chael cynnig pob math o gyfleoedd drwy’r gwaith.

“Ers dechrau siarad Cymraeg dw i’n clywed yr iaith ym mhob man yng Nghaerdydd, ac mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus wrth arwain clybiau chwaraeon mewn ysgolion ac yn y gymuned.”

Mae brwdfrydedd yr ysgol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol yn cefnogi uchelgeisiau Bil y Gymraeg ac Addysg y llywodraeth, sydd â'r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus, beth bynnag fo'u cefndir neu eu haddysg.

Ar ymweliad â'r ysgol, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford gyfle i gwrdd â phrentisiaid a dysgwyr. Dywedodd: "Mae'r Urdd yn gweithio'n galed i rymuso pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus yn eu bywydau pob dydd. Rydyn ni am greu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned ac mae'r math hwn o waith, yn ogystal â Bil y Gymraeg ac Addysg, yn ein helpu ni i wireddu'r uchelgais honno."

Yr Urdd yw un o'r cyflogwyr Cymraeg mwyaf a'r phrif ddarparwr prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y trydydd sector yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion

Wedi'i sefydlu ym 1922, Urdd Gobaith Cymru (Urdd) yw sefydliad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru. Mae'n darparu chwaraeon, celfyddydau, gwirfoddoli, prentisiaethau, gweithgareddau awyr agored, a chyfleoedd dyngarol, rhyngwladol a phreswyl i blant a phobl ifanc drwy'r Gymraeg, sy'n meithrin eu hunanhyder ac yn eu galluogi nhw i wneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned a'r byd ehangach. 

Mae Adran Brentisiaethau'r Urdd yn ddarparwr prentisiaethau blaenllaw yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, gan arbenigo mewn prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau chwaraeon, hamdden, addysg awyr agored, gofal plant, addysg ac ieuenctid. Ers 2014, mae'r adran wedi ymrwymo i bontio'r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth ac wedi helpu dros 1,000 o unigolion i gael profiad ymarferol ac ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan ddiwydiannau.