English icon English
WG positive 40mm-2 cropped

Croesawu adroddiad ar gefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith

Report on supporting Welsh speaking communities welcomed

Mae'r adroddiad sy’n archwilio sut y gall y maes cynllunio gwlad a thref gael effaith ar yr iaith Gymraeg.

Mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi bod yn ymchwilio i sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau a'r heriau y mae'n eu hwynebu.

Heddiw mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad ar Gynllunio Gwlad a Thref. Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Comisiwn yn dangos bod nifer o awdurdodau cynllunio a chyrff proffesiynol yn credu bod angen edrych eto ar bolisïau a chanllawiau yn y maes cynllunio gwlad a thref mewn perthynas â'r Gymraeg.

Mae'r adroddiad yn gwneud 14 o argymhellion, gan gynnwys yr angen i gryfhau canllawiau ac ystyried effaith y gall polisïau a chanllawiau cynllunio gwlad a thref ei gael ar yr iaith Gymraeg.

Un o argymhellion y Comisiwn yw darparu fframwaith ar gyfer asesu effaith y gall cais cynllunio ar y Gymraeg ei gael mewn ardaloedd sydd â chanran uwch o siaradwyr Cymraeg,  yn yr un modd ag a wneir yn achos ceisiadau cynllunio mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae'r Comisiwn hefyd yn argymell cryfhau Nodyn Cyngor Technegol 20 i ddarparu arweiniad cliriach mewn nifer o feysydd sy'n berthnasol i gynllunio a'r Gymraeg.

Bydd y Llywodraeth yn ystyried yr adroddiad hwn ac yn ymateb i'w ganfyddiadau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Hoffwn ddiolch i aelodau'r Comisiwn am gyflwyno'r adroddiad hwn a hefyd i’r cyfranwyr sydd wedi rhannu eu hamser a'u harbenigedd. Byddwn yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad dros y misoedd nesaf."

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks: "Yn dilyn ymchwil trylwyr, daeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i'r casgliad y dylid diwygio polisïau cynllunio gwlad a thref sy'n berthnasol i'r Gymraeg.

"Gwella'r ystyriaeth a roddir i'r Gymraeg yn y system gynllunio yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol ein hiaith fel iaith genedlaethol a chymunedol."