English icon English
paned-a-sgwrs Ysgol Langstone-2

Dwy flynedd o wersi Cymraeg am ddim: A dros 2,000 o bobl ifanc a staff ysgol yn mynd ar eu taith i ddysgu Cymraeg

Two years of free Welsh lessons: Over 2,000 young people and school staff take up their Welsh learning journey

Mae'r ail flwyddyn o wersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed a staff ysgolion wedi helpu hyd yn oed mwy o bobl i ddysgu'r iaith. Credir bod dros 2,000 o bobl ifanc a staff ysgol wedi manteisio ar y cynnig yn ystod 2023-24.

Enillodd Melody Griffiths, 17 oed, o Wrecsam Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn yn gynharach eleni.  Dechreuodd Melody ddysgu Cymraeg ym Mlwyddyn 11 ac mae wedi trefnu Clwb Cymraeg yn ei choleg. 

Dywedodd: "Mae'r clwb yn cyfarfod bob wythnos.  Mae'r myfyrwyr yn dod i ddysgu mwy am y Gymraeg, a diwylliant a hanes Cymru  drwy gwisiau a sgyrsiau hamddenol.

"Dwi'n meddwl mai'r peth gorau am siarad Cymraeg yw fy mod i'n gallu cysylltu â Chymru yn well - drwy'i diwylliant a'i llenyddiaeth.  Mae'n anodd deall y rhain os nad 'dach chi'n siarad Cymraeg."

Gall gwersi Cymraeg am ddim hefyd helpu staff ysgolion i ysbrydoli dysgwyr. Penderfynodd grŵp o athrawon yn Ysgol Gynradd Langstone yn ne-ddwyrain Cymru fynd ati i ddysgu'r iaith ar ddechrau'r cyfnod clo ac maent bellach yn mwynhau dysgu ac addysgu'r iaith yn yr ysgol.

Dywedodd un o athrawon yr ysgol, Paula Watts: "Dw i wrth fy modd yn siarad Cymraeg a dw i'n manteisio ar bob cyfle posib i gyflwyno'r iaith i'r plant ar draws yr ysgol. Mae gennym ni nifer o gemau newydd yn Gymraeg i helpu'r plant i lunio brawddegau, cyflwyno geirfa newydd, a chynnal sgwrs syml.

"Dw i hefyd yn rhannu gorchmynion Cymraeg y gall y staff eu defnyddio yn y dosbarth wrth addysgu ac yn cynnig syniadau i’w helpu i gynllunio eu gwersi Cymraeg.

"Mae gennym sesiwn paned a sgwrs bob bore Mawrth am 8:15am sy'n rhoi cyfle i staff sgwrsio yn Gymraeg dros baned.

"Mae Dydd Mercher Cymraeg yn un o'n hoff ddyddiau ni a'r plant- rydyn ni'n cael llawer o hwyl ac yn dechrau'r dydd gyda gemau a chaneuon  Cymraeg."

Mae ystod o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael am ddim i bobl ifanc 16-25 oed sy'n  cael eu cynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys cyrsiau blasu a chyrsiau lefel Mynediad i ddechreuwyr, hyd at lefelau Uwch a Gloywi ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg.  Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac mewn dosbarthiadau rhithwir – ac mae ystod eang o adnoddau dysgu digidol ar gael hefyd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Cymraeg i Bobl Ifanc | Dysgu Cymraeg

Mae'r Ganolfan Genedlaethol hefyd yn darparu dewis gwych o gyrsiau Cymraeg ar gyfer staff ysgolion, sy'n cynnwys cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer ymarferwyr addysg yn ogystal â chyrsiau hunan-astudio ar-lein a chyrsiau Dysgu Cymraeg yn y gymuned.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, : "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae'r fenter hon yn golygu ei bod hi'n haws nag erioed i bobl ddysgu Cymraeg.  Rwy'n falch o weld cymaint o bobl ifanc ac ymarferwyr addysg yn manteisio ar y cyfle i ddysgu'r iaith.

"Mae gwella sgiliau Cymraeg pobl ifanc fel eu bod yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd yn bwysig iawn.  Mae hyn yn rhan o'n gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, ac yn iaith fodern sy'n cael ei defnyddio bob dydd.

"Mae datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg yn allweddol i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae darparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a gwella lefelau gallu yn y Gymraeg ar gyfer y gweithlu addysg yn hanfodol fel eu bod yn fwy hyderus i addysgu'r Gymraeg, defnyddio'r Gymraeg wrth addysgu pynciau eraill, ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn amgylchedd ehangach yr ysgol."

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae gwaith y Ganolfan wedi ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynnwys hyfforddiant Dysgu Cymraeg i bobl ifanc a'r gweithlu addysg - dwy gynulleidfa hanfodol i wireddu'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae gwaith y Ganolfan gyda phobl ifanc yn mynd o nerth i nerth, ac mae cyrsiau ac adnoddau pwrpasol yn cael eu datblygu gan arbenigwyr iaith y Ganolfan.  Yn ogystal, mae partneriaethau gydag ysgolion, prentisiaethau, Addysg Bellach a sefydliadau fel yr Urdd a Gwobrau Dug Caeredin yn darparu cyfleoedd dysgu newydd a hyblyg i bobl ifanc.

"Mae'r Ganolfan hefyd wedi datblygu pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant ar gyfer y gweithlu addysg - o ddechreuwyr i siaradwyr Cymraeg sydd eisiau magu eu hyder Cymraeg.  Mae athrawon a chynorthwywyr hefyd yn cael eu cyflwyno i ddulliau a all eu helpu i ddysgu Cymraeg i blant a phobl ifanc."