English icon English
Ysgol Pencae

Rhoi rhifyn Cymraeg-Ffrangeg dwyieithog o 'Y Tywysog Bach' i bob ysgol

Bilingual French-Welsh edition of 'The Little Prince' given to all schools

Mae pob ysgol yng Nghymru wedi cael copi o 'Y Tywysog Bach', rhifyn dwyieithog arbennig o'r clasur Ffrangeg 'Le Petit Prince'.

Mae'r cyhoeddiad unigryw hwn yn dathlu cysylltiadau diwylliannol pwysig Cymru â Ffrainc, ac mae wedi'i ddosbarthu i bob ysgol yng Nghymru i gyd-fynd â Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol UNESCO ar 21 Chwefror.

Mae'r rhifyn arbennig yn cynnwys rhagair ar y cyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford, yn ei rôl flaenorol fel Prif Weinidog, Lysgennad Ffrainc i'r DU a Llysgennad y DU i Ffrainc, gan dynnu sylw at y cysylltiadau diwylliannol cryf rhwng y gwledydd.

Wrth lansio'r llyfr yn Ysgol Pencae yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd Mark Drakeford: "Mae'r rhifyn dwyieithog hwn yn agor drysau newydd i'n dysgwyr, gan ddod â llenyddiaeth Gymraeg a Ffrangeg ynghyd i ddathlu ein hieithoedd a'n diwylliannau. Drwy roi'r llyfr hwn i bob ysgol, bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ymddiddori mewn llenyddiaeth o bob cwr o'r byd yn unol â'n Cwricwlwm i Gymru."

Dan arweiniad Conswl Anrhydeddus Ffrainc i Gymru, Céline Jones, mae'r prosiect yn ffrwyth cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau blaenllaw, gan gynnwys Airbus, Bouygues a Capital Law. Mae gan Ffrainc berthynas economaidd bwysig gyda Chymru - yn ôl data ONS 2023, mae tua 85 o gwmnïau yng Nghymru yn eiddo i Ffrancwyr, a'r rheini'n cyflogi 9,000 o bobl.

Ffrainc yw rhif 4 ein mewnfuddsoddwyr mwyaf o ran buddsoddiadau unigolion, a hi oedd rhif 4 ein marchnad allforio fwyaf ar gyfer nwyddau o Gymru yn 2022. Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae buddsoddiadau gan gwmnïau o Ffrainc wedi creu neu ddiogelu dros 10,000 o swyddi yng Nghymru.

Roedd Céline Jones hefyd yn yr achlysur lansio. Dywedodd: "Mae 'Y Tywysog Bach' yn ymwneud â themâu cyffredinol chwilfrydedd, archwilio a darganfod. Bydd gweld y stori werthfawr hon yn y Gymraeg a'r Ffrangeg yn ysbrydoli ein pobl ifanc i archwilio ieithoedd a diwylliannau newydd."

Mae'r fenter yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion ac yn hyrwyddo llythrennedd drwy lenyddiaeth y byd.