English icon English
WG positive 40mm-3

Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynllun i roi terfyn ar doriad treth i ysgolion annibynnol

Welsh Government consults on plan to end tax break for independent schools

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i roi terfyn ar doriad treth ar gyfer rhai ysgolion sy'n codi ffioedd.

Byddai'r newid yn tynnu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol yn ôl o ysgolion preifat o 1 Ebrill 2025.

Bydd y cynnig hwn yn golygu bod ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol y cael eu trin yn yr un ffordd ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru at ddibenion ardrethi annomestig. Yng Nghymru, mae ysgolion preifat wedi eu cofrestru fel ysgolion annibynnol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Rydym yn credu y dylai ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yng Nghymru gael eu trin yn yr un ffordd â'r rhai nad ydynt yn elusennau, a dyna pam rydym yn cynnig dileu'r rhyddhad treth hwn.

"Byddai hyn yn golygu bod Cymru yn cyd-fynd â'r Alban ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau tebyg yn Lloegr."

Mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru; mae 17 yn destun rhyddhad ardrethi annomestig elusennol sy'n werth tua £1.3m bob blwyddyn. Byddai'r arian a ryddheir drwy ddod â'r rhyddhad treth hwn i ben ar gael i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Mae'r ymgynghoriad yn disgrifio cynnig Llywodraeth Cymru, gan ofyn am sylwadau. Bydd ar agor am 12 wythnos o 23 Medi, a dylai unrhyw ymatebion ein cyrraedd erbyn 16 Rhagfyr 2024.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yma: https://www.gov.wales/charitable-non-domestic-rates-relief-private-schools