English icon English
Dydd Miwsig Cymru-4

Llwyfan digidol newydd yn rhoi miwsig Gymraeg ar y map

New digital platform puts Welsh language music on the map

Gall y rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth bellach ddod o hyd i bob gig Cymraeg sy'n digwydd ledled Cymru mewn un lle, diolch i blatfform ar-lein newydd arloesol: Awni.

Mewn pryd i ddathlu 10 mlynedd o Ddydd Miwsig Cymru, mae Awni yn dod â holl ddigwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg at ei gilydd ar wefan hawdd ei defnyddio gyda map rhyngweithiol. P'un a ydych yn chwilio am gigs agos neu wyliau mawr, gallwch ddod o hyd iddyn nhw i gyd wrth glicio botwm.

Wedi'i greu gan y tîm brawd a chwaer Jona a Martha Owen, mae Awni yn helpu i sicrhau nad yw cefnogwyr cerddoriaeth byth yn colli allan ar ddigwyddiadau gwych sy'n digwydd yn agos atynt.

Meddai Martha: "Fel cefnogwyr cerddoriaeth Gymraeg, roedden ni'n clywed ein hunain yn dweud 'doeddwn i ddim yn gwybod am y gig yna!' yn rhy aml. Gyda channoedd o gigs yn cael eu cynnal bob blwyddyn, nod 'Awni?' yw sicrhau nad oes unrhyw gig yn dod o dan y radar.

"Trwy gyflwyno gigs i'n map, gall trefnwyr, lleoliadau ac artistiaid hybu gwerthiant tocynnau a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwefan yn help llaw - gan gefnogi y sîn gerddoriaeth Gymraeg gyffrous a chryfhau presenoldeb y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt trwy gerddoriaeth fyw."

Mae prosiect Awni wedi derbyn cyllid drwy Sain fel rhan o'u Cronfa Her ARFOR, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu mentrau strategol i gryfhau'r economi o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Fel rhan o'r gronfa hon, mae label recordio Sain, hefyd wedi digido eu catalog cyfan o dros 20,000 o ganeuon - ochr yn ochr ag un o bartneriaid y prosiect, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn bwriadu dod â degawdau o dreftadaeth gerddorol Gymreig i gynulleidfaoedd newydd.

Mae Sain yn dathlu Dydd Miwsig Cymru drwy ryddhau ei gasgliad cyfan o'r 1970au o'r archif hon ar lwyfannau ffrydio fel Spotify ac Apple Music. Yn cael ei ystyried yn eang fel 'cyfnod aur' y label, gan gynnwys albymau eiconig gan artistiaid fel Meic Stevens, Brân a Delwyn Siôn. Hwn fydd y tro cyntaf i lawer o'r caneuon hyn fod ar gael yn ddigidol. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad gwych o iaith a cherddoriaeth, a bydd hi'n haws fyth i bobl gymryd rhan eleni diolch i Awni. Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych i bawb brofi a mwynhau Miwsig Cymraeg, beth bynnag fo'ch gallu yn yr iaith."

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: "Mae Cronfa Her ARFOR yn helpu i ddod o hyd i atebion arloesol i gryfhau'r berthynas rhwng yr economi a'r Gymraeg - mae Awni yn gwneud hynny yn union drwy ddod â phobl at ei gilydd i fwynhau ein sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog."

Mae Awni yn gadael i chi: 

  • Weld yr holl gigs sydd ar y gweill ar fap rhyngweithiol
  • Chwilio am ddigwyddiadau yn ôl dyddiad
  • Cael manylion am leoliadau a thocynnau
  • Darganfod artistiaid a digwyddiadau Cymraeg newydd yn eich ardal chi

I ddod o hyd i'ch gig Cymraeg nesaf, ewch i https://awni.cymru/ 

Nodiadau i olygyddion

ARFOR

The ARFOR Programme has been operating since 2019/20 – initially as a 2 year pilot scheme with a budget of £2m (£1m in each year), followed by a 3 year commitment for funding of £11m over a three year period.

The ARFOR Programme has been operational in the 4 local authority areas of Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion and Carmarthenshire and is delivered via a grant to Gwynedd Council, as the lead authority. The programme funds a small number of strategic projects which support economic interventions aimed at supporting the Welsh language and the sustainability of Welsh speaking communities.

Interviews

Martha and Jona Owen (Awni) are available for interviews. Please contact alys.jones045@gov.wales