Newyddion
Canfuwyd 66 eitem, yn dangos tudalen 5 o 6
Rhaglen yn cynnig llwybr newydd i addysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Pontio, sef rhaglen sy’n hyfforddi athrawon cynradd i fod yn athrawon uwchradd, yn parhau am y flwyddyn academaidd nesaf.
Dathlu Dydd Miwsig Cymru: £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad
Wrth i gigs a digwyddiadau gael eu cynnal ar draws y wlad ar wythfed Dydd Miwsig blynyddol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol fel bod pobl yn mwynhau hyd yn oed mwy o gerddoriaeth.
Mwy o gyllid i sefydliadau sy’n helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg
Mae mentrau iaith a’r papurau bro ymysg y sefydliadau sy’n rhannu bron i £260,000 i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Croeso i Aberwla: y pentref rhithwir sy’n helpu disgyblion i ddysgu Cymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £6.6 miliwn dros 3 blynedd i gefnogi darpariaeth trochi hwyr cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Mae’r prosiect, sydd â’r nod o gyflwyno’r gêm realiti rhithwir addysgol i ddisgyblion sy’n dysgu Cymraeg ledled Cymru, yn rhan o’r buddsoddiad hwn.
Mwy o gymorth ar gael mewn ysgolion ar gyfer dysgu Cymraeg
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim yn cael eu cynnig am y tro cyntaf i'r gweithlu addysg cyfan, yn cynnwys staff nad ydynt yn addysgu. Ochr yn ochr â hyn, mae fframwaith newydd ar gyfer y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi'i gyhoeddi, sy’n tanlinellu bod yr iaith yn rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru newydd.
Dros £7m i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd dros £7m yn cael ei fuddsoddi mewn 11 o brosiectau addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.
Dweud eich dweud am sut i gryfhau cymunedau Cymraeg
Mae grŵp o arbenigwyr eisiau clywed eich barn ar sut i warchod dyfodol ein cymunedau Cymraeg.
Gwersi Cymraeg am ddim bellach ar gael i bobl 18 – 25 mlwydd oed ac i staff addysgu
Gall pobl ifanc a staff y sector addysg yng Nghymru bellach gael mynediad at wersi Cymraeg am ddim fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’r ymrwymiad yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Camau newydd i ddiogelu cymunedau Cymraeg
Heddiw, bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn rhoi rhagflas o’r camau gweithredu sy’n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith a lle mae nifer uwch o ail gartrefi.
Croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant
Bydd croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd, a fydd yn cael ei chynnal yn y Gogledd, wrth i'r mudiad ddathlu ei chanmlwyddiant, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru heddiw.
Buddsoddiad mawr a fydd yn annog beicio ac yn helpu Cymru i fod yn sero-net
Annog pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau beicio yw nod buddsoddiad gwerth £50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters (dydd Gwener 13 Mai).
Prosiectau mawr newydd yn cael eu cyhoeddi i helpu twf yr iaith Gymraeg
- 11 o brosiectau cyfalaf ledled Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg
- £1.2m i roi cymorth i’r Urdd ar ôl y pandemig.