English icon English

Cyhoeddi cynigion i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn 2050

Proposals published to enable all pupils in Wales to become confident Welsh speakers by 2050

Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn sy'n amlinellu cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg newydd. Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol.

Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion newydd i gyflawni ei nodau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, amddiffyn ein hiaith, a chynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg.

Ymhlith y prif gynigion mae:

  • Adlewyrchu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith;
  • Creu un continwwm sgiliau Cymraeg i ddisgrifio lefelau sgiliau fel bod dysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr yn dod i ddealltwriaeth gyffredin o'r daith tuag at ddysgu Cymraeg;
  • Sefydlu system statudol o gategoreiddio ysgolion a gynhelir yn ôl cyfrwng iaith;
  • Dros amser, cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir nad ydynt eisoes yn ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig;
  • Gofyniad i Weinidogion Cymru greu Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu'r Gymraeg, a'i adolygu bob tymor Seneddol;
  • Diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion er mwyn cyrraedd targedau a osodir gan Weinidogion Cymru;
  • Gofynion ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol, gan gynnwys darpariaeth trochi hwyr; a
  • Rhoi cymorth arbenigol i ysgolion o ran dysgu Cymraeg.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae’r papur hefyd yn cynnwys ymrwymiad i’r Llywodraeth gynnal astudiaeth gyda mewnbwn arbenigol i ystyried taflwybr mwy serth ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2050 a thu hwnt.

Bydd y cynigion yn golygu cynnydd yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, a chynnydd hefyd yn y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion nad ydynt eisoes yn ysgolion cyfrwng Cymraeg dynodedig. Ynghyd â hyn, bydd categorïau iaith ysgol yn statudol am y tro cyntaf, gan roi delwedd glir a chywir o'r ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Bydd y Cynllun Cenedlaethol a grëir gan Weinidogion Cymru yn rhoi targedau clir i bob awdurdod lleol ar gyfer gwella eu darpariaeth Gymraeg, gan gynnwys targedau cenedlaethol ar gyfer recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl am hyn drwy ymgynghoriad sydd ar agor tan 16 Mehefin 2023.

Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno Bil yn ystod y Tymor Seneddol hwn.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Rydym wedi ymrwymo i ddyfodol lle mae gan bawb y gallu a'r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Dyna pam rydym yn ymgynghori ar argymhellion i roi ein hamcanion mewn gyfraith ac i wella sgiliau Cymraeg ym mhob ysgol

"Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac felly mae'n bwysig bod pawb yn cael dweud eu dweud. Ewch ati i ymateb i’r ymgynghoriad a rhannu eich barn.”

Meddai Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:

"Ein gweledigaeth hirsefydlog yw bod y system addysg yn gwbl allweddol i roi’r rhodd o ruglder yn y Gymraeg i bob plentyn. Dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yw'r norm ar draws Ewrop; mae'r cynigion yn y Papur Gwyn yn mynd â ni gam ymhellach at sicrhau bod ein system addysg yn cyflwyno’r Gymraeg i bob disgybl mewn ffordd sy'n creu siaradwyr hyderus.

"Rwy'n falch ein bod wedi gallu cydweithio ar y meysydd hynny lle’r ydym wedi gallu canfod tir cyffredin ar gynigion a fyddai'n dod â newid mawr ac egwyddorion newydd mewn addysg yng Nghymru.”

Nodiadau i olygyddion

Bwriad y Papur Gwyn hwn yw ceisio barn ar gynigion ar gyfer Bil. Mewn rhai mannau, gwneir cynigion y gellir eu gwireddu heb ddeddfu. Maent wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn hwn am eu bod yn rhan annatod o'r cynigion deddfwriaethol.