English icon English

Dros £7m i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg

Over £7m to support the next generation of Welsh speakers

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd dros £7m yn cael ei fuddsoddi mewn 11 o brosiectau addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.

Bydd yr arian hwn yn sicrhau mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg Gymraeg, sy'n allweddol i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i ddod â chyfleoedd i fwy o ddisgyblion, o'r blynyddoedd cynnar i ysgolion uwchradd, er mwyn datblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd Ysgol Llanfawr ar Ynys Môn yn cael arian ar gyfer uned gofal plant newydd. Bydd lle ar gyfer 50 o leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr uned newydd, er mwyn meithrin cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg.

Gall rhai prosiectau hefyd gefnogi cymunedau lleol i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg. Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen wedi sicrhau cyllid ar gyfer cae 3G dan lifoleuadau sy'n addas ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau i'w cynnal yn ystod oriau’r diwrnod ysgol. A bydd y cae hefyd ar gael i’r gymuned leol gyda’r nos, dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol, er mwyn ehangu’r defnydd o’r Gymraeg.

Dywedodd y Gweinidog, Jeremy Miles:

“Rwy'n falch o weld y cynlluniau ar gyfer prosiectau newydd a fydd yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob oedran ledled Cymru. Os ydyn ni'n mynd i gyrraedd ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi'r genhedlaeth nesaf wrth wraidd ein cynlluniau.

“Mae fy neges i'n glir, rwy am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.”

Nodiadau i olygyddion

Dyma’r 11 o brosiectau:

  1. Powys: Ysgol Pennant a Chylch Meithrin Penybontfawr

Bydd lle ar gyfer 16 o leoedd yn y cyfleuster newydd ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys estyniad i Ysgol Pennant a fydd yn darparu ar gyfer y nifer presennol o ddisgyblion yn yr ysgol.

  1. Castell-nedd Port Talbot: Adnewyddu safle ym Mynachlog Nedd i greu egin ysgol newydd

Byddai'r prosiect hwn yn golygu bod safle presennol Ysgol Gynradd yr Abaty yn cael ei adnewyddu, ei ailfodelu a'i addasu i sefydlu ysgol ddechreuol Gymraeg newydd, a darpariaeth gofal plant ar gyfer 12 o leoedd (sy'n cyfateb i 24 o leoedd)

  1. Castell-nedd Port Talbot: Ailfodelu darpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Trebannws, a sefydlu lleoliad gofal plant

Mae’r prosiect yn cynnwys ailfodelu a gwaith gwella i adeilad yr ysgol i hwyluso’r gwaith o ddatblygu canolfan cymorth dysgu cyfrwng Cymraeg newydd. Yn ogystal, mae’n ceisio creu darpariaeth gofal plant newydd cyfrwng Cymraeg sydd â lle ar gyfer 12 o leoedd (sy’n cyfateb i 24 o leoedd drwy gydol y dydd), a gwell cyfleusterau ar gyfer y cyfnod sylfaen.

  1. Ynys Môn: Uned gofal plant Ysgol Llanfawr

Nod y prosiect hwn yw cael arian i brynu adeilad modiwlar newydd i'w osod ar safle Ysgol Llanfawr yng Nghaergybi. Byddai'r adeilad modiwlar yn cynnwys lle ar gyfer dau ddosbarth, derbynfa, swyddfa, cegin, toiledau a storfeydd. Byddai'r safle'n darparu 50 o leoedd ar gyfer gofal plant cyfrwng Cymraeg i blant o 2 oed tan y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed (pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol amser llawn). Gallai'r uned hefyd gael ei defnyddio i ddarparu gofal plant y tu allan i oriau ysgol a chlybiau gwyliau ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd statudol.

  1. Ynys Môn: Uned gofal plant Ysgol y Graig

Mae'r prosiect hwn yn cynnwys adeiladu uned gofal plant newydd fel rhan o adeilad newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Graig. Bydd yr uned yn cynnwys lle ar gyfer dau ddosbarth, derbynfa, swyddfa, cegin, toiledau a storfa. Bydd y prosiect yn cynyddu’r capasiti ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar ac yn darparu gofal cofleidiol parhaus ar safle Ysgol y Graig.

  1. Conwy: Cylch Meithrin Bro Aled, Ysgol Bro Aled, Llansannan

Estyniad newydd ar safle’r ysgol i ddarparu lle i Gylch Meithrin Llansannan. Bydd hwnnw’n caniatáu 15-19 mwy o leoedd gofal plant fesul sesiwn.

  1. Torfaen: Cae 3G Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Amcan y prosiect hwn yw darparu cae 3G dan lifoleuadau sy'n addas ar gyfer pêl-droed, rygbi cyffwrdd yr undeb, a chwaraeon a gweithgareddau eraill i'w cynnal yn ystod oriau’r ysgol. Byddai'r cyfleuster hefyd ar agor i'r gymuned leol gyda'r nos, dros y penwythnos, ac yn ystod gwyliau’r ysgol, ar gyfer mentrau i ehangu’r defnydd o'r Gymraeg. Y nod yw darparu cae sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson drwy gydol y flwyddyn, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i ddatblygu’r iaith a gwella iechyd.

  1. Casnewydd: Neuadd Chwaraeon i Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

Mae'r prosiect hwn am ddarparu adeilad pedwar cwrt modiwlar ar gyfer neuadd chwaraeon, gyda chyfleusterau newid yn ysgol uwchradd Gymraeg Casnewydd. Byddai hyn yn ategu'r cyfleusterau ar gyfer addysgu, bwyta ac ymgynnull, ac yn darparu’r cyfleusterau cyflawn sydd eu hangen er mwyn i’r ysgol allu cynnig cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol.

  1. Caerdydd: Cymorth anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Glantaf – canolfan adnoddau arbennig

Nod y prosiect hwn yw cefnogi disgyblion ychwanegol mewn canolfan adnoddau arbennig. Bydd y ganolfan yn darparu’r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar ddisgyblion yn yr ysgol brif ffrwd, gan gynnwys addasiadau sy’n unol â Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

  1. Caerdydd: Gwaith adnewyddu yn Ysgol Bro Edern

Bydd y prosiect hwn yn darparu'r gwaith o adnewyddu ystafelloedd dosbarth fel dosbarthiadau technoleg bwyd newydd i ddisgyblion ychwanegol yn yr ysgol.

  1. Caerdydd: Uned dros dro a gwaith adnewyddu yn Ysgol Plasmawr

Mae'r prosiect hwn yn cynnwys darparu uned dros dro i ddisodli'r ddarpariaeth bresennol a fydd yn cynnig mwy o leoedd. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys adnewyddu’r toiledau presennol er mwyn darparu ar gyfer y nifer ychwanegol o ddysgwyr yn yr ysgol.