Mwy o gymorth ar gael mewn ysgolion ar gyfer dysgu Cymraeg
More support available in schools for Welsh learning
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim yn cael eu cynnig am y tro cyntaf i'r gweithlu addysg cyfan, yn cynnwys staff nad ydynt yn addysgu. Ochr yn ochr â hyn, mae fframwaith newydd ar gyfer y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi'i gyhoeddi, sy’n tanlinellu bod yr iaith yn rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru newydd.
Mae'r Gymraeg yn cael ei dathlu a'i siarad bob dydd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru, gan helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth o'n hiaith ac o ddiwylliannau Cymru. Mae'r fframwaith newydd wedi ei ddatblygu gan athrawon ar gyfer athrawon. Cafodd ei gynllunio i helpu ysgolion i ddatblygu eu dealltwriaeth o beth i'w addysgu, yn ogystal â'u dealltwriaeth o gynnydd o ran dysgu Cymraeg. Gall ysgolion ei ddefnyddio wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm ac asesu i helpu i nodi'r wybodaeth, y sgiliau, y profiadau, a'r ymagweddau a fydd yn ganolog i’r rhain. Er mwyn cefnogi'r fframwaith, bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael ar gyfer y gweithlu addysg, yn cynnwys staff sy’n addysgu a phob aelod o staff nad ydynt yn addysgu. Mae cwrs sabothol hefyd ar gael i athrawon ddysgu neu wella eu Cymraeg. Bydd cyfle i bobl gael mynediad at ddarpariaeth hyfforddi am ddim drwy (Cymraeg Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg). Ers i'r cynllun ddechrau ym mis Medi mae 400 o bobl eisoes wedi cofrestru a chymryd rhan naill ai mewn cyrsiau hunan-astudio ar-lein neu rai yn y gymuned. Mae mynediad at gyrsiau blasu ac adnoddau dysgu am ddim ar gael hefyd. Ar ben hyn, mae rhestr chwarae Hwb wedi ei datblygu i dynnu sylw at adnoddau sydd eisoes ar gael ar hyn o bryd i gefnogi dysgu ac addysgu Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg. Yn ddiweddar, bu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn ymweld ag Ysgol Gyfun Olchfa i weld yn uniongyrchol sut maent yn defnyddio'r fframwaith newydd ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg. Yn ystod yr ymweliad ymunodd y Gweinidog â gwers Gymraeg blwyddyn 7 a chafodd y fraint o glywed grŵp lleisiol yr ysgol yn canu 'Yma o Hyd'.
|