English icon English
 © Crown copyright (2022) Cymru Wales-2

Dweud eich dweud am sut i gryfhau cymunedau Cymraeg

Have your say on how Welsh-speaking communities can be strengthened

Mae grŵp o arbenigwyr eisiau clywed eich barn ar sut i warchod dyfodol ein cymunedau Cymraeg.

Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru i wneud argymhellion ar sut i helpu gwneud yn siŵr y gall ein holl gymunedau Cymraeg ffynnu.

Bydd yr alwad am dystiolaeth yn hollbwysig i adroddiad y comisiwn a fydd yn cynnig argymhellion i'r llywodraeth. Maen nhw’n dymuno clywed gan aelodau o'r cyhoedd a mudiadau.

Mae'r Comisiwn eisiau clywed eich barn ar bob math o faterion sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg, o dai ac addysg i ddatblygiad cymunedol ac adfywio.

Mae'r alwad am dystiolaeth yn agor ar 9 Tachwedd 2022 a dylid cyflwyno'r ymatebion erbyn 13 Ionawr 2023.

Mae cryfhau cymunedau Cymraeg yn ganolog i strategaeth Llywodraeth Cymru o ddyblu’r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae'n hanfodol bod ein cymunedau yn gryf ac wedi'u diogelu fel y gall Cymraeg ffynnu. Mae’r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y bydd gan lawer o bobl farn ac awgrymiadau ar gyfer newid hyn. Bydd yr adroddiad hwn yn werthfawr er mwyn gweld sut bydd yr economi, penderfyniadau polisi a demograffeg yn effeithio ar ddyfodol Cymraeg yn ein cymunedau."

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks: "Dan ni am roi cyfle i bawb ddweud eu dweud am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Bydd tystiolaeth a syniadau sy’n cael eu cyflwyno i ni yn hanfodol wrth i ni weithio ar ein hargymhellion fel comisiwn. Dwi’n annog cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan, a dwi’n addo y bydd pob syniad yn cael ei ystyried yn ofalus."

Nodiadau i olygyddion

This credit for attached image must be used: © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2022) Cymru Wales

Chair of the Comission, Dr Simon Brooks is available for interview.

To arrange interviews please contact Alys Jones: alys.jones045@gov.wales