Newyddion
Canfuwyd 155 eitem, yn dangos tudalen 1 o 13

Y Gweinidog yn croesawu cynllun i wahardd cŵn American Bully XL ar ôl galw am weithredu
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod am wahardd cŵn y brid American Bully XL erbyn diwedd y flwyddyn.

£600,000 i wella iechyd a diogelwch pysgotwyr a gweithwyr dyframaethu
Anogir pysgotwyr a gweithwyr dyframaethu yng Nghymru i wneud cais am gyllid i wella agweddau iechyd a diogelwch ar eu gwaith.

Gweinidog yn ymweld â llaethdy llaeth defaid llwyddiannus ym Methesda
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru wedi ymweld â llaethdy newydd ym Methesda, Gwynedd a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer llaeth defaid.

Deddf Amaeth hanesyddol Cymru yn dod i rym
Mae Deddf Amaeth gyntaf erioed Cymru bellach yn gyfraith, ar ôl derbyn y Cydsyniad Brenhinol heddiw.

Y newyddion diweddaraf am Brosiect TB Buchol Sir Benfro
Mae'r prosiect TB buchol yn Sir Benfro, i edrych sut y gellir mynd i'r afael â'r clefyd mewn dull partneriaeth wedi dechrau, yn dilyn dyfarnu'r contract ar gyfer ei gyflawni, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mwy o gyfleoedd i drafod yn Sioeau Môn a Sir Benfro
Bydd sioeau amaethyddol sydd ar ddod yr haf hwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i drafod ac i weld y gorau o gefn gwlad Cymru, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.

Cynllun i gefnogi cymunedau arfordirol
Bydd cynllun i gefnogi prosiectau lleol yn ardaloedd arfordirol Cymru yn elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cymru

Ffermydd Gogledd Cymru yn gweithredu i gefnogi'r amgylchedd
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi clywed sut mae busnesau fferm yng Ngogledd Cymru yn gweithredu er mwyn fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Y Gweinidog yn gweld gwaith anhygoel yn LIMB-art Conwy
Mae Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, wedi gweld y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan gwmni dylunio a gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf yng Nghonwy sy'n ymroddedig i gynhyrchu gorchuddion coes prosthetig trawiadol.

Uchafbwynt newydd i allforion Bwyd a Diod Cymru
Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru werth £797 miliwn yn 2022, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Gwarchod Wisgi Cymreig Brag Sengl
Mae un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru, y Wisgi Cymreig Brag Sengl, bellach wedi'i ddiogelu'n swyddogol ar ôl iddo sicrhau statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y DU.

Uchafbwynt y calendr gwledig ar ddechrau wrth inni edrych ymlaen at ddyfodol ffermio – Lesley Griffiths
Sioe Frenhinol Cymru yw uchafbwynt y calendr gwledig, ac mae’n lle delfrydol i barhau â thrafodaethau a sgyrsiau am sicrhau dyfodol cryf i ffermio a’n cymunedau gwledig, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths heddiw.