Newyddion
Canfuwyd 155 eitem, yn dangos tudalen 6 o 13

Canolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Gofal Iechyd yng Ngwynedd: Siemens Healthineers i uwchraddio'r cyfleuster yn Llanberis a buddsoddi mewn swyddi newydd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru
- Bydd Siemens Healthineers yn lansio canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer technoleg gofal iechyd yn Llanberis, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
- Bydd y ganolfan ragoriaeth yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu.
- Bydd y cyfleuster newydd yn helpu i gyfuno gwaith Siemens Healthineers o gynhyrchu ei dechnoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, yn Llanberis.
- Bydd y buddsoddiad yn diogelu 400 o swyddi ac yn creu bron 100 swydd o ansawdd uchel, gyda chyflog cyfartalog gryn dipyn yn uwch na’r cyfartalog ar gyfer yr ardal.
- Mae'r cyhoeddiad yn dod wrth i Siemens Healthineers ddathlu 30 mlynedd yn Llanberis.

Dwedwch eich dweud ynghylch y cynigion blaengar newydd i gefnogi ffermwyr yn y Sioe Laeth
Mae dychweliad Sioe Laeth Cymru yn darparu cyfle gwych i bobl ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'n rhaglen gydlunio, mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud.

Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle ar Ynys Môn
Mae Gosia Siwonia, Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Dros Dro Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 mewn dofednod ar safle ar Ynys Môn.

Diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i ffynnu
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i fynd o nerth i nerth wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod trosiant cadwyni cyflenwi'r sector wedi cynyddu i £23 biliwn yn 2021.

Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle ar Ynys Môn
Mae Gavin Watkins, Prif Swyddog Milfeddygol Dros Dro Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 mewn dofednod ar safle ar Ynys Môn.

Y Gweinidog yn talu teyrnged i’r Prif Swyddog Milfeddygol
Ar ôl 17 mlynedd, mae Christianne Glossop yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru. Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi diolch iddi am ei chyfraniad anhygoel i iechyd a lles anifeiliaid

Miloedd o ffermydd yng Nghymru’n cael eu talu
Bydd rhagor na 15,600 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o fwy na £161m pan fydd rhagdaliadau Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) 2022 yn cael eu talu fory (Gwener 14 Hydref), meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Cig oen o Gymru ar ei ffordd i America
Caiff cig oen o Gymru ei allforio i’r Unol Daleithiau heddiw, am y tro cyntaf mewn dros 25 mlynedd. Mae'r llwyth wedi ei brosesu yn Dunbia, Sir Gaerfyrddin.

Bil hanesyddol cyntaf Amaethyddiaeth Cymru i gefnogi ffermwyr yn y dyfodol
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod Bil Amaethyddiaeth cyntaf Cymru erioed wedi cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r Bil yn paratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gefnogi ffermwyr, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a gwarchod a gwella cefn gwlad Cymru, y diwylliant a’r Gymraeg.

Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle yn Sir Benfro
Mae Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 mewn dofednod ar safle mawr yn Sir Benfro.

Ffliw Adar wedi'i ganfod ar safle yng Ngwynedd
Mae Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 ar safle ger Arthog yng Ngwynedd.

Gall cynlluniau ar gyfer safle Trawsfynydd roi hwb enfawr i ogledd Cymru
Mae gan Gwmni Egino rôl hanfodol i’w chwarae wrth wireddu potensial safle Trawsfynydd, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn dilyn ymweliad â’r ardal.