Prif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru yn dechrau ei rôl
Wales’ new Chief Veterinary Officer starts in the role
Heddiw, mae Dr Richard Irvine yn dechrau ei rôl newydd yn Brif Swyddog Milfeddygol Cymru.
Mae Dr Irvine yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar ôl bod yn Ddirprwy Brif Swyddog Milfeddygol y DU ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr polisi ar gyfer Iechyd Anifeiliaid Byd-eang yn Llywodraeth y DU.
Yn filfeddyg profiadol iawn, mae Richard wedi bod yn gweithio yn y proffesiwn ers dros 25 mlynedd, ac mae'n dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd gydag ef. Mae ganddo gefndir mewn iechyd a lles anifeiliaid, polisi masnach, yn ogystal â gwyddoniaeth a millfeddygaeth gwladol.
Cyn hyn, mae Richard wedi treulio cyfnod mewn practis milfeddygol cymysg clinigol yn ne Cymru.
Mae hefyd wedi cael gwahanol rolau yn arwain rhaglenni gwyliadwriaeth iechyd anifeiliaid a gwyddoniaeth yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Dywedodd Dr Irvine: “Mae ffermwyr a milfeddygon ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych ac rwy'n edrych ymlaen at eu cyfarfod a'u cefnogi fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.
“Rydym i gyd wedi ymrwymo i amddiffyn iechyd a lles anifeiliaid a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu a chyflawni ein nodau ar y cyd.
“Mae llawer wedi’i gyflawni yng Nghymru a fy ngwaith i, ochr yn ochr â'r tîm yn Llywodraeth Cymru, yw adeiladu ar hynny.
“Rwy’n edrych ymlaen at fwrw ati a gwneud gwahaniaeth go iawn yma yng Nghymru.”
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy'n falch iawn o groesawu Richard fel ein Prif Swyddog Milfeddygol newydd.
“Bydd arweinyddiaeth ac arbenigedd Richard yn hanfodol wrth gyflawni ein nodau uchelgeisiol o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid a'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.
“Bydd ei wybodaeth a'i brofiad yn gaffaeliad mawr ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef.”