£2.5m ychwanegol i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid yng Nghymru
Additional £2.5m to tackle antimicrobial resistance in animals in Wales
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi fod £2.5m ychwanegol yn cael ei ddarparu i barhau â'r gwaith da o reoli ymwrthedd i wrthfiotigau (AMR) mewn anifeiliaid yng Nghymru.
Mae AMR yn digwydd pan fydd bacteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid yn newid dros amser ac nad ydynt bellach yn ymateb i feddyginiaethau, sy'n gwneud heintiau mewn pobl ac anifeiliaid yn anoddach i'w trin a chynyddu'r risg o ledaenu clefydau, salwch difrifol a marwolaeth.
Byddai gadael AMR heb ei atal yn cael effeithiau eang a chostus iawn, nid yn unig mewn termau ariannol ond hefyd o ran y cyhoedd, a iechyd anifeiliaid, yn ogystal â masnach, diogelwch bwyd, a datblygiad amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol.
Yn 2019, dyrannwyd cyllid i Arwain DGC i ddarparu ystod o waith pwysig i reoli AMR ac i hybu iechyd anifeiliaid.
Mae llawer o'r gweithgareddau sy'n cael eu lansio yma yng Nghymru yn cael eu treialu am y tro cyntaf.
Mae gwaith Arwain DGC yn arwain y ffordd ar ddal data o’r defnydd o wrthfiotigau ar gyfer y sectorau cig eidion, defaid a llaeth, ledled Cymru. Mae hwn yn gam pwysig sydd ei angen i ddeall patrymau o ddefnyddio gwrthfiotigau i sefydlu llinell sylfaen ac i dargedu gostyngiad yn y defnydd mwyaf risg uchel.
Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi ymdrechion cyflenwi pellach am y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Amcangyfrifir bod Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn achosi 700,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn fyd-eang. Amcangyfrifir y bydd y ffigwr hwn yn codi i 10 miliwn erbyn 2050 os nad oes camau'n cael eu cymryd. Bydd pobl ac anifeiliaid yn dioddef afiechydon hirach, mwy o farwolaethau a bydd yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau iechyd i bobl ac anifeiliaid.
"Rwy'n falch fod y gwaith sy'n digwydd yng Nghymru wedi ein rhoi ar flaen y gad yn yr ymdrechion i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd.
"Mae'n amlwg, fodd bynnag, na all AMR gael ei reoli gan lywodraeth yn unig. Mae rheoli afiechydon heintus a'r gwrthfiotigau a ddefnyddir i'w trin yn nwylo ceidwaid anifeiliaid a'u milfeddygon. Felly mae'n hanfodol fod pawb yn parhau i gydweithio tuag at yr un nod.
"Bydd y £2.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru yr wyf yn ei gyhoeddi yn allweddol i barhad yr ymdrechion hyn ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i wneud cyfraniad llawn i reoli AMR."