Newyddion
Canfuwyd 187 eitem, yn dangos tudalen 2 o 16
Mesurau o 1 Chwefror i helpu i ddileu TB gwartheg
Bydd y mesurau fel y Profion Cyn Symud, fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Chwefror yn hanfodol i'n helpu i daclo TB gwartheg yng Nghymru, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Gweinidog yn clywed am lwyddiant busnes o Sir Ddinbych wrth allforio
Mae busnes yn Rhuallt, Sir Ddinbych yn cael cryn lwyddiant wrth allforio. Mae'n allforio i dros 15 o wledydd, gan gynnwys yr Almaen, Ffrainc a Seland Newydd, ac mae bellach yn troi ei olygon at ragor o dwf
Penodi Aelodau o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Mae chwech wedi cael eu penodi'n aelodau o fwrdd diwydiant sydd am ddatblygu a hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru ac ennill enw hyd yn oed yn well ar ei gyfer
Cadw ffermwyr i ffermio
Cyfle i chi ddweud eich dweud am ddyfodol cymorth i ffermwyr, wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Cyhoeddi cynigion i wella lles anifeiliaid
Mae ymgynghoriad ar gynigion i gryfhau sut mae gweithgareddau anifeiliaid yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru, a fydd yn gwella lles anifeiliaid, wedi'i gyhoeddi heddiw.
Cynllun gweithredu i helpu ffermwyr i fanteisio ar dechnoleg ddigidol
Mae cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod y sector amaeth yng Nghymru yn elwa i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol.
Y Ffair Aeaf yn gyfle i drafod cyfleoedd a dyfodol ffermio yng Nghymru
Mae'r Ffair Aeaf yn gyfle pwysig i gefn gwlad Cymru gael dangos y gorau sydd ganddi ac i drafod y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r sector amaeth yn enwedig wrth ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.
Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn paratoi i groesawu'r myfyrwyr cyntaf yn 2024
Heddiw, wrth ymweld ag Ysgol Feddygol annibynnol newydd Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths fod y paratoadau ar gyfer croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr a fydd yn astudio yno yn mynd rhagddynt yn dda.
Statws gwarchodedig ar gyfer dau fusnes bwyd a diod o Sir Benfro
Mae'r Pembrokeshire Beach Food Company a Velfrey Vineyard yn dathlu ar ôl ymuno â rhestr o gynhyrchwyr o Gymru i weld eu cynnyrch yn cael statws gwarchodedig.
Mae tueddiadau tymor hir TB gwartheg yn dangos gwelliant ond bod angen gweithredu mewn ardaloedd penodol
Mae TB gwartheg yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau i ostwng, ond rydym am dargedu'r ardaloedd lle ceir problemau o hyd a chynnal prosiectau penodol yn Sir Benfro ac Ynys Môn.
Syniadau arloesol i fynd i'r afael ag allyriadau amonia yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £1 miliwn ar gael i gefnogi prosiectau newydd a all helpu i leihau allyriadau amonia, ac mae'r ffenestr ymgeisio yn agor heddiw.
Rhaglen £4.6m i leihau perygl llifogydd i ryw 2,000 eiddo gan ddefnyddio grym natur
Mae manylion rhaglen gwerth £4.6m wedi'i chyhoeddi heddiw fydd yn lleihau perygl llifogydd gan ddefnyddio grym natur, gan wireddu ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu (Dydd Mercher, Hydref 25).