English icon English

Mae tueddiadau tymor hir TB gwartheg yn dangos gwelliant ond bod angen gweithredu mewn ardaloedd penodol

Bovine TB long term trends show progress, with targeted action in key areas

Mae TB gwartheg yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau i ostwng, ond rydym am dargedu'r ardaloedd lle ceir problemau o hyd a chynnal prosiectau penodol yn Sir Benfro ac Ynys Môn.

Mewn datganiad i'r Senedd heddiw [dydd Mawrth, 14 Tachwedd], dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod achosion newydd wedi gostwng dros 18% yn y 12 mis hyd at fis Mehefin eleni, o'i gymharu â'r un cyfnod bum mlynedd yn ôl - ac mae nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu difa i reoli TB hefyd wedi gostwng, bron 5%.

Mae Prosiect TB Sir Benfro yn mynd rhagddo gyda'r tîm yn cydweithio gyda 15 fferm a ddewiswyd gan y chwe milfeddygfa leol sy'n cymryd rhan.

Mae'r prosiect yn cynnwys treialu dulliau newydd yn ogystal â dilyn y mesurau statudol sy'n bod eisoes. Mae'r dulliau newydd hyn yn golygu cydweithio rhwng y ffermwyr a'u milfeddygon i ddatblygu mesurau wedi'u teilwra ar lefel buches, gan gynnwys mesurau bioddiogelwch llymach a rheoli anifeiliaid risg uchel. 

Dywedodd y Gweinidog hefyd am y sefyllfa ar Ynys Môn lle mae mesurau ychwanegol gan gynnwys profion cyn symud yn cael eu cyflwyno. 

Mae'r newidiadau a ddaw fel rhan o'r Cynllun Cyflawni pum mlynedd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cynnwys, o fis Chwefror 2024, ailgyflwyno Profion Cyn-Symud ar wartheg sy'n cael eu symud o ac o fewn yr Ardal TB Isel. Hefyd, caiff y gofyn i gynnal Profion ar ôl Symud yn yr Ardaloedd TB Canolradd ei estyn a chaiff gwybodaeth am fuchesi heb TB ei dangos ar ibTB er mwyn i ffermwyr allu gwneud penderfyniadau prynu gwybodus.

Rydym wrthi'n recriwtio aelodau newydd ar Fwrdd y Rhaglen Dileu a'r Grŵp Cynghori Technegol ac mae Llywodraeth Cymru yn annog y rhai sydd â'r sgiliau a'r profiad perthnasol i wneud cais erbyn diwedd y mis.

Ailadroddodd y Gweinidog y byddwn yn edrych ato ar y polisi lladd ar y fferm, yn enwedig ar gyfer anifeiliaid sy'n drwm â llo, a bydd yn bwnc y bydd y Grŵp Cynghori Technegol yn ei ystyried ar frys.

Meddai'r Gweinidog: "Er bod darlun TB gwartheg yn newid trwy'r amser, hoffwn bwysleisio'r tueddiadau pwysig, hirdymor sy'n dangos bod llai o fuchesi â TB a bod llai o achosion newydd mewn buchesi yn gyffredinol ar draws Cymru.

"Fel y gwnes i ei bwysleisio ym mis Mawrth, mae'r Cynllun Cyflawni yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth. Ni fydd y Llywodraeth yn gallu dileu TB ar ei phen ei hun.

"Fel nad oes byth dwy fferm union yr un fath, nid oes dau achos o TB union yr un fath, ac mae lefelau TB yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru. Felly, mae'n hanfodol bod ffermwyr yn gweithio'n glos gyda'u milfeddyg i amddiffyn eu buchesi a chadw TB allan, yn ogystal ag i ddelio â'r clefyd os bydd yn taro.

"Mae Prosiect Sir Benfro yn enghraifft wych o fenter gydweithredol dan arweiniad diwydiant – sy'n chwilio am ffyrdd newydd i filfeddygon a ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus gyda'i gilydd i atal a rheoli'r clefyd, ar lefel buches. 

"Rwy'n ymwybodol iawn hefyd o effaith TB gwartheg ar iechyd a lles ffermwyr a'u bywoliaethau. Mae iechyd meddwl a lles y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant amaeth yn destun pryder mawr i mi.

"Dyna pam rydyn ni'n benderfynol o ddileu TB gwartheg. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gwnawn ni hynny.  

"Rwy'n galw ar y diwydiant ffermio a'r proffesiwn milfeddygol i uno â'r Llywodraeth a'i phartneriaid i weithredu i wireddu'r nod o ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041. Mae'n darged uchelgeisiol, ond mae'n un y gallwn ei daro cyn belled â bod pawb dan sylw yn cefnogi, yn cyfranogi ac yn cydweithredu."