English icon English

Y Ffair Aeaf yn gyfle i drafod cyfleoedd a dyfodol ffermio yng Nghymru

Winter Fair is chance to discuss opportunities and future of farming in Wales

Mae'r Ffair Aeaf yn gyfle pwysig i gefn gwlad Cymru gael dangos y gorau sydd ganddi ac i drafod y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r sector amaeth yn enwedig wrth ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Bydd y Gweinidog ar faes y sioe yn Llanelwedd heddiw ac mae wedi ailadrodd mai'r argyfyngau hinsawdd a natur yw'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu'r sector amaeth a bod gan ffermwyr rôl bwysig y mae'n rhaid iddyn nhw ei chwarae.

Meddai'r Gweinidog: "Mae'n wych bod yn ôl yn Llanelwedd ar ôl Sioe Fawr hwylog iawn yn yr haf.

"Mae'r Ffair Aeaf yn gyfle pwysig i drafod pynciau amaethyddol, yn enwedig sut i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

"Mae gennym sector amaethyddol gwych ac ymroddedig ac er lles ein cymunedau, cenedlaethau'r dyfodol, a chynaliadwyedd y diwydiant, rhaid ymateb nawr i'r argyfyngau hyn. Mae yna effeithiau gweladwy eisoes, felly rhaid gweithredu.

"Mae ein gallu i gynhyrchu bwyd yn y fantol os na wnawn ni weithredu ac mae gan ffermwyr rôl bwysig o ran wynebu'r heriau sydd o'n blaenau. Mae nifer o fesurau y gellir eu cymryd, a byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr i wynebu'r heriau hyn ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

"Dwi bob amser wedi bod yn glir ynghylch pwysigrwydd cydweithio ac mae hynny'n hanfodol i ni allu cyflawni'n nodau."

Mae'r Gweinidog wedi cydnabod hefyd mai'r sefyllfa ariannol anodd fydd un o'r pwyntiau trafod mawr yn y Ffair Aeaf eleni.

Dywedodd: "Rwyf wedi bod yn glir mai dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf yr ydym wedi gorfod ei hwynebu ers datganoli.

"Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael gwared ar lefel o sicrwydd a'r mis nesaf daw diwedd gwariant yr UE wrth i'r Rhaglen Datblygu Gwledig ddod i ben.

"Ond rydyn ni'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ein cymunedau gwledig a'u helpu i lwyddo yn y dyfodol.

"Dwi'n gobeithio bydd pawb yn mwynhau'r Ffair Aeaf a dwi'n disgwyl ymlaen at weld wynebau newydd a chyfarwydd yn Llanelwedd."

Mae pawb sydd yn y Ffair Aeaf yn cael eu hannog i ymweld â stondin Llywodraeth Cymru a fydd ar agor ar gyfer dau ddiwrnod y digwyddiad.

Fe welwch y stondin yn Neuadd De Morgannwg a bydd gwybodaeth ar gael arni am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y Cynllun Creu Coetir, llygredd amaethyddol, atal ffliw adar a'r help y gall Cyswllt Ffermio ei gynnig i ffermwyr.