English icon English

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn paratoi i groesawu'r myfyrwyr cyntaf yn 2024

North Wales Medical School gearing up for first students in 2024

Heddiw, wrth ymweld ag Ysgol Feddygol annibynnol newydd Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths fod y paratoadau ar gyfer croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr a fydd yn astudio yno yn mynd rhagddynt yn dda.

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 140 o fyfyrwyr y flwyddyn i astudio yn yr ysgol feddygol a'r bwriad yw i'r 80 cyntaf ddechrau ym mis Medi y flwyddyn nesaf.  

Yn ystod ei degawd cyntaf, bydd Ysgol Feddygol newydd y Gogledd yn derbyn cannoedd o fyfyrwyr meddygol ac yn eu hyfforddi drwy lwybr Mynediad Ysgolion 5 mlynedd o hyd a llwybr Mynediad i Raddedigion 4 blynedd o hyd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau rhagor o gyfleoedd hyfforddi i feddygon cymwys gan eu hannog i aros a gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Bydd y myfyrwyr yn astudio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf yn Adeilad Brigantia y Brifysgol a'i hystafelloedd efelychu Meddygaeth a Gofal Iechyd ym Mron Heulog, gan gynnwys defnyddio byrddau dyrannu electronig blaengar ar gyfer astudio anatomeg.

Cafodd y Gweinidog gyfarfod â rhai o fyfyrwyr rhaglen bresennol Meddygaeth C21 Gogledd Cymru Prifysgol Caerdydd sy'n cwblhau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor ac yng nghyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ledled y Gogledd.  Mae myfyrwyr hefyd yn cwblhau'r drydedd flwyddyn gyfan ym maes Meddygaeth Deulu a hynny mewn cymunedau yn y Gogledd, sy'n drefniant unigryw.

Ym mis Gorffennaf eleni, graddiodd y 17 o fyfyrwyr cyntaf i gwblhau'r rhaglen C21 Gogledd Cymru gyda phob un ohonynt wedi llwyddo yn eu harholiadau y tro cyntaf.  Daw llwyddiant y rhaglen bresennol yn sgil cefnogaeth a phartneriaeth agos gydag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, ac mae'n sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer y rhaglen annibynnol, newydd.

Dywedodd y Gweinidog: "Bydd Ysgol Feddygol y Gogledd yn hyfforddi nifer cynyddol o staff meddygol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Mae wedi bod yn wych gweld y cyfleusterau yma heddiw a chlywed am brofiadau'r myfyrwyr sydd eisoes yn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Dw i'n gobeithio bydd y myfyrwyr fydd yn dod drwy'r drysau hyn ac yn hyfforddi yn y rhanbarth hefyd yn dewis gogledd Cymru fel eu man gwaith unwaith y byddan nhw wedi graddio. Mae'r cyfleusterau yma yn rhagorol ac mae brwdfrydedd ac ymrwymiad gwirioneddol gan bawb sy'n rhan o'r rhaglen. Mae hyn yn newyddion da i'r myfyrwyr, i bobl y Gogledd ac i'r Bwrdd Iechyd, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos â phosibl at gartrefi pobl."

Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: "Mae Ysgol Feddygol y Gogledd yn gam gwirioneddol ymlaen i'r Brifysgol, gan ychwanegu at ein portffolio presennol o addysg ac ymchwil ar draws disgyblaethau gofal iechyd. Mae'n pwysleisio ein perthynas agos â gwasanaethau iechyd ar draws y rhanbarth, a'n cefnogaeth iddynt. Bydd ein myfyrwyr meddygol newydd yn elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau hyfforddi modern, ein staff addysgu profiadol yn ogystal â chymorth gwych gan staff y gwasanaeth iechyd ledled y Gogledd."

Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Pennaeth Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae sefydlu Ysgol Feddygol y Gogledd yn benllanw nifer o flynyddoedd o waith caled. Rydym wedi helpu ein partneriaid ym Mhrifysgol Bangor i gadarnhau dichonoldeb darparu rhaglen hyfforddiant meddygol yn ei chyfanrwydd yn y Gogledd. Wrth i'r paratoadau barhau ar gyfer y garfan gyntaf o fyfyrwyr, byddwn yn parhau i gynghori cydweithwyr a'u harwain wrth i'r ysgol feddygol newydd gwblhau ei thaith i fod yn ysgol annibynnol."

Mae Ysgol Feddygol y Gogledd yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac mae'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr Gofal Sylfaenol ledled y Gogledd.