Penodi Aelodau o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Appointments to Food and Drink Wales Industry Board
Mae chwech wedi cael eu penodi'n aelodau o fwrdd diwydiant sydd am ddatblygu a hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru ac ennill enw hyd yn oed yn well ar ei gyfer
Bydd aelodau Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn cysylltu ac yn ymwneud â busnesau ledled y wlad a chyda Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i sicrhau twf parhaus wrth i fwyd a diod o Gymru ffynnu gartref a thramor.
Dyma'r chwech a benodwyd:
Yr Athro David Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Cyfarwyddwr Canolfan y Diwydiant Bwyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Dechreuodd David ar ei yrfa yn y diwydiant bwyd mewn labordai becws mawr yng Nghaerdydd. Bu'n gweithio wedyn mewn rhannau gwahanol o'r DU yn Gyfarwyddwr Technegol gydag amryfal gwmnïau bwyd mawr.
Yn ei swydd bresennol yng Nghanolfan y Diwydiant Bwyd, mae David yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat a Llywodraeth Cymru. Mae'n cynghori ar faterion sy'n effeithio ar y sector ac mae hefyd wedi dylanwadu ar Bolisi Bwyd Llywodraeth Cymru.
Mrs Alison Lea-Wilson, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Cyd-berchennog The Anglesey Sea Salt Co Ltd
Ym1997, dechreuodd Alison a'i gŵr David yr Anglesey Sea Salt Co Ltd. Maen nhw wedi datblygu a chryfhau'r cwmni ac erbyn hyn, mae'n un o brif gynhyrchion bwyd Cymru ac yn cael ei allforio i ryw 15 o wledydd. Mae'r busnes wedi ennill o leiaf 30 o wobrau, gan gynnwys ennill 3*** Aur yng Ngwobrau Great Taste.
Miss Alison Harvey
Ymgynghorydd ar y Gadwyn Gyflenwi Amaeth – Rural Advisor Co.
Mae gan Alison dros 15 mlynedd o brofiad llwyddiannus ym maes darparu gwasanaethau cwsmeriaid ar lefel uchel, rheoli prosiectau, cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth ar draws sector cig coch y DU. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hi hefyd wedi datblygu ystod o sgiliau a gwybodaeth o fewn y diwydiant, yn enwedig ym meysydd rheoli'r gadwyn gyflenwi, allforio a gweithio gyda ffermwyr o bob cwr o'r DU a Seland Newydd.
Mr Andy Richardson
Partner – Partneriaethau Bwyd a Ffermio Ewropeaidd (EFFP)
Mae gan Andy dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd a diod yn y DU.
Mae wedi gweithio mewn rolau masnachol yn y diwydiant bwyd anifeiliaid ar gyfer BOCM PAULS ac yn ddiweddar, bu'n gweithio i Volac lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Chynaliadwyedd.
Mae Andy hefyd wedi cyd-sefydlu dau brosiect cydweithredol rhyngwladol, sef datblygu cyflenwad a galw cynaliadwy am brotein a brasterau bwytadwy.
Mr Graham Black
Cyfarwyddwr Anweithredol, Seafish
Mae Graham hefyd yn cadeirio Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru sydd â chynrychiolwyr o bob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd môr yng Nghymru.
Cyn ei waith yn Seafish, roedd Graham yn Gyfarwyddwr ar Marine Scotland.
Mrs Valerie Creusailor
Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Goch and Company
Dros yrfa sydd wedi para mwy na dau ddegawd, mae Valerie wedi chwarae rhan ganolog wrth iddi hyrwyddo effeithlonrwydd gweithredol yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Mae'n hyddysg ym maes datblygu sgiliau, dynameg timau, a sicrhau'r perfformiad gorau o ran elw ar draws gwahanol rolau rheoli ar y lefel uwch.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae bwyd a diod o Gymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Cyrhaeddodd allforion y sector £797 miliwn yn 2022, sef y ffigur uchaf erioed.
"Mae aelodau'r bwrdd diwydiant yn dod â chyfoeth o brofiad, arbenigedd ac angerdd gyda nhw i helpu'r sector dyfu hyd yn oed yn fwy.
"Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddyn nhw adeiladu ar y gwaith pwysig y mae'r bwrdd yn ei wneud i sicrhau dyfodol ffyniannus i'r diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru."
Dywedodd David Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: "Mae'n anrhydedd mawr cael fy ethol yn Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ar yr adeg dyngedfennol hon i'r sector (busnesau bwyd a diod) yng Nghymru.
"Hoffwn i groesawu'r aelodau sydd newydd eu hethol i'r Bwrdd ac sydd i gyd yn awyddus i ddefnyddio ehangder eu profiad, eu gwybodaeth a'u sgiliau i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru a datblygu cyfleoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y farchnad.
"Mae pob aelod o'r Bwrdd yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, ac at ddatblygu'r partneriaethau sydd eisoes yn bod gyda phartneriaid diwydiannol a meithrin perthynas newydd gydag aelodau eraill o'r gadwyn fwyd er mwyn helpu i ddatblygu rhagor ar y sector."
Dywedodd Alison Lea-Wilson, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
"Dw i'n falch iawn o gael fy mhenodi'n aelod o Fwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod ac i fod yn Ddirprwy Gadeirydd arno.
"O ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu, mae'n bwysicach byth ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel sector, gan fanteisio'n llawn ar y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru er mwyn inni fedru tyfu'n diwydiant mewn ffordd gynaliadwy.
"Mae gan Gymru fwy na'i chyfran deg o fwyd a diod gwych a byddwn yn cydweithio i sicrhau eu bod yn cael cydnabyddiaeth a'u lle yn y byd."