English icon English

Cyhoeddi cynigion i wella lles anifeiliaid

Proposals to improve animal welfare published

Mae ymgynghoriad ar gynigion i gryfhau sut mae gweithgareddau anifeiliaid yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru, a fydd yn gwella lles anifeiliaid, wedi'i gyhoeddi heddiw. 

Ar hyn o bryd nid yw nifer o weithgareddau anifeiliaid yn cael eu rheoleiddio, neu nid yw'r rheoliadau'n addas i'r diben mwyach. 

Byddai cryfhau trwyddedu o'r fath yn gwella ac yn diogelu lles anifeiliaid, gyda chynllun trwyddedu statudol yn gosod safonau gofynnol y byddai angen i bob deiliad trwydded gydymffurfio â hwy, wedi'u hategu gan drefn archwilio. 

Mae'r ymgynghoriad Trwyddedu Sefydliadau Lles, Gweithgareddau ac Arddangosfeydd Anifeiliaid yn rhan o'r cam cyntaf ar gyfer datblygu Model Cenedlaethol i wella safonau lles ac mae'n ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

Mae meysydd nad ydynt wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd yn cynnwys canolfannau achub anifeiliaid, llochesi anifeiliaid, gwasanaethau cerdded a thwtio cŵn, a pharciau chwarae cŵn, ymhlith eraill.

Yn sgil y diddordeb mawr gan y cyhoedd yn lles milgwn rasio, mae'r ymgynghoriad yn ystyried y posibilrwydd o drwyddedu perchnogion, ceidwaid a hyfforddwyr cŵn rasio fel milgwn.  Mae hefyd yn gofyn am dystiolaeth i gyfiawnhau neu wrthod ystyried gwaharddiad graddol ar rasio cŵn yn y dyfodol. 

Y bwriad ar hyn o bryd yw casglu barn y cyhoedd ar amrywiaeth o feysydd a nodwyd, er mwyn datblygu polisi a chynigion yn y dyfodol.  Byddai unrhyw drefniadau trwyddedu yn y dyfodol yn y meysydd a nodwyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach, cyn iddynt gael eu rhoi ar waith.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: ‌“Ein huchelgais hirdymor yw bod pob anifail yng Nghymru yn byw bywyd da.  Bydd Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid yn ein helpu i gyrraedd yn nes at y nod hwn.

‌“Byddai trwyddedu gweithgareddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yn sicrhau bod iechyd a lles yr anifeiliaid dan sylw yn cael eu hystyried bob amser, gan ysgogi gwelliannau mewn safonau cadw anifeiliaid ac yn ei gwneud yn bosibl i wella'r gwaith gorfodi yn yr achosion hynny pan fo pethau'n mynd o chwith.

‌“Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud cyn yr ymgynghoriad hwn i nodi'r gweithgareddau sydd heb eu trwyddedu ar hyn o bryd, a lle mae bylchau yn y trefniadau presennol.

‌“Rwy'n gwybod bod rasio milgwn yn dal i fod yn bwnc llosg ac mae'r ymgynghoriad yn cyflawni fy ymrwymiad i'r Pwyllgor Deisebau drwy gynnwys cwestiwn ar drwyddedu posibl i berchnogion, ceidwaid a hyfforddwyr cŵn rasio, ac mae'n ceisio casglu tystiolaeth o blaid neu yn erbyn ystyried gwaharddiad graddol posibl yn y dyfodol.  Ceir safbwyntiau cryf ar bob ochr, a bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i asesu ac ystyried yr holl gamau gweithredu posibl ac adeiladu sylfaen dystiolaeth hanfodol cyn dod i unrhyw gasgliadau.  Rhaid i unrhyw fesurau neu newidiadau rheoleiddiol yn y dyfodol gael eu hasesu ar sail tystiolaeth a byddent yn destun ymgynghoriad pellach.”

  Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos ar gael yma

Trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid | LLYW.CYMRU