Cennin Pedr ar Ffurf Calon yn arwydd o Hoffter o Fwyd a Diod o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi
Daffodil Heart Display Demonstrates Love for Welsh Food & Drink on St David’s Day
Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn gallu dangos eu bod wrth eu boddau â bwyd a diod o Gymru drwy rannu ffotograffau o osodiad cennin Pedr ar ffurf calon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Mae'r gosodwaith yn cynnwys miloedd o gennin Pedr ac fe’i crëwyd fel rhan o ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste o dan Raglen Llywodraeth Cymru i Ddatblygu Masnach mewn Bwydydd a Diodydd o Gymru.
Mae'r gosodwaith, sydd wedi’i wneud o 12,000 o gennin Pedr, ac a roddwyd gan frand cynnyrch ffres Blas y Tir o Gymru, yn deyrnged i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru ac mae hefyd yn annog defnyddwyr Cymru i rannu eu balchder a'u hangerdd ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Bydd ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn cael cais i dynnu eu llun wrth ochr y galon Cennin Peder a'i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnodau #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, yn ystod y cyfnod a fydd yn arwain at Ddydd Gŵyl Dewi, ac ar y diwrnod ei hun ar 1 Mawrth.
Yn y cyfamser, bydd pobl a fydd yn ymweld â Southbank Llundain y penwythnos hwn yn gallu mwynhau Marchnad Dydd Gŵyl Dewi, lle bydd rhai o gogyddion gorau Cymru yn arddangos eu sgiliau coginio, a lle bydd cyfle i gyfarfod â chynhyrchwyr a dysgu mwy am Gymru a'i choginio.
Ymhlith y cynhyrchwyr a fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Llundain y mae Distyllfa Aber Falls, BlackMountains Smokery, Coaltown Coffee, Jones Trust Your Gut, Radnor Preserves, SamosaCo, The Rogue Welsh Cake Company, Trailhead Fine Foods a Wickedly Welsh Chocolate.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn un o ddiwrnodau mwyaf lliwgar y flwyddyn yng Nghymru, ac mae'n wych gweld yr arddangosfa hon yng Nghastell Caerdydd yn tynnu sylw at y cynnyrch anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru.
"Rwy'n falch o weld cynhyrchwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Llundain hefyd, gan arddangos cynnyrch ardderchog o Gymru ar lannau'r Tafwys.
"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle gwych inni ddathlu’n pobl, ein treftadaeth, ein diwylliant ac, wrth gwrs, ein cynhyrchwyr bwyd a diod o ansawdd. Dyna’r hyn mae'r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn ei ategu.”
Bydd calon cennin Pedr #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste Pedr i'w gweld yng Nghastell Caerdydd rhwng dydd Iau, 23 Chwefror a dydd Gwener, 3 Mawrth.
Dywedodd Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Puffin Produce, cartref Blas y Tir:
"’Does dim byd gwell na chennin Pedr o Gymru i ddangos ein bod yn 'Gymry balch'. Mae'n fraint gweld ein cennin Pedr, un o arwyddluniau cenedlaethol Cymru, yn cael eu harddangos â balchder yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Gobeithio bydd ymwelwyr â'r Castell yn mwynhau'r arddangosfa hyfryd hon gymaint â ni."
Bydd calon cennin Pedr #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste i'w gweld yng Nghastell Caerdydd rhwng dydd Iau, 23 Chwefror a dydd Gwener, 3 Mawrth.
Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:
"Mae Castell Caerdydd yn eiconig ac yn un o'r atyniadau treftadaeth yng Nghymru sy’n denu’r niferoedd mwyaf o ymwelwyr. Mae'r cyfle i weld yr arddangosfa hyfryd hon o gennin Pedr, sy'n dathlu cynhyrchwyr bwyd o Gymru wrth i'r genedl ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, yn rheswm arall dros ymweld â Chaerdydd yn ystod y gwanwyn."
Mae ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi hefyd yn cynnwys cyfres o hysbysebion teledu sy'n dathlu pum brand bwyd adnabyddus o fwydydd a diodydd Cymru.
Bydd hysbysebion teledu a fydd yn rhoi sylw Blas y Tir, Edwards – y Cigydd Cymreig, Castle Dairies, Radnor Hills, a Bara Brace i’w gweld ar y sgrin fach am bythefnos, gan ddechrau ar 26 Chwefror.
Lansiwyd pecyn cymorth dwyieithog #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod sydd am ymuno â’r ymgyrch, a bydd hysbysebu awyr agored wedi’i dargedu yn Llundain, Birmingham, Bryste, a Lerpwl, yn ogystal ag ar y prif ffyrdd i mewn i Gymru a ger lleoliadau archfarchnadoedd a safleoedd lletygarwch Cymru.