English icon English

Manteisio i'r eithaf ar gyllid rhaglenni Ewropeaidd er mwyn cefnogi Cymru wledig

Maximising European programme funds key to supporting rural Wales

Mae'r holl gyllid a oedd ar gael drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014–2020 ar gyfer Cymru wedi cael ei fuddsoddi, o fewn cyfnod y rhaglen, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae hyn yn golygu bod Cymru wedi elwa ar dros £846 miliwn, gyda dros £564 miliwn ohono'n dod o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig wedi ariannu miloedd o brosiectau, wedi creu swyddi ac wedi cefnogi pobl a busnesau ledled y wlad.

Mae cynyddu cynhyrchiant, amrywiaeth ac effeithlonrwydd busnesau fferm, annog arferion rheoli tir cynaliadwy a hyrwyddo twf economaidd cryf a chynaliadwy mewn ardaloedd gwledig i gyd wedi bod yn rhan o amcanion y Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP).

Rhoddwyd mwy na £409 miliwn i ffermwyr, rheolwyr tir a choedwigwyr i wella bioamrywiaeth a helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wedi helpu i adfer dros 300,000 hectar o gynefinoedd er mwyn dal a chadw carbon, gwella ansawdd dŵr a chefnogi bioamrywiaeth brin.

Mae'r rhaglen wedi bod yn allweddol wrth foderneiddio'r diwydiant ffermio a'r diwydiant coedwigaeth i gynyddu cydnerthedd a chystadleurwydd, wrth wella cynhyrchiant y gweithlu gwledig yn gyffredinol. Mae hyn wedi arwain at dros 4,000 o swyddi'n cael eu creu a'u diogelu drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP).

Mae diwydiant bwyd Cymru, trafnidiaeth a thwristiaeth i gyd wedi elwa ar gyllid gan y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Gydag ymadawiad y DU o'r UE, daeth y cymorth hwn i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn canolbwyntio ar weithredu dull gwirioneddol Gymreig o gefnogi’r economi wledig.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Bydd llwyddiant cyffredinol y rhaglen gydweithio hon gyda'r UE a'i heffaith gadarnhaol ar Gymru, sydd wedi bod yn helaeth, amrywiol a llwyddiannus, yn cael eu teimlo a'u gweld am ddegawdau i ddod.

"Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig wedi cefnogi miloedd o brosiectau ledled Cymru, gan helpu i greu a diogelu swyddi. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi ac yn adeiladu ar lwyddiannau'r rhaglen wrth inni edrych tua'r dyfodol.

"Ymrwymais i i sicrhau bod holl gyllid y rhaglen yn cael ei wario'n ac mae hyn wedi cael ei gyflawni. Mae'n bwysig cydnabod bod y gwaith o sicrhau bod holl gyllid y rhaglen yn cael ei wario wedi cael ei gyflawni yn erbyn cefndir o heriau digynsail i ffermwyr a chymunedau gwledig.

"Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o gyflawni'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn llwyddiannus, gan gynnwys ein partneriaid yn y Comisiwn Ewropeaidd. Er gwaethaf ein hymadawiad â'r UE a diwedd ein hymwneud â'r Rhaglen, rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid Ewropeaidd yn y dyfodol.”