English icon English

Sylw yn dilyn cyfarfod gyda'r Undebau Amaeth – 19 Chwefror

Comment following meeting with the Farming Unions – 19 February

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Dwi'n cyfarfod yn rheolaidd â'r undebau ffermio ac roeddwn i'n awyddus cwrdd â nhw mor fuan â phosib ar ôl y sioeau teithiol, ein rhai ni a'u rhai nhw, gafodd eu cynnal i drafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am ymuno â mi heddiw ac roedd yn dda cael clywed yr adborth gethon nhw yn eu digwyddiadau.  Byddem yn ystyried hyn ynghyd a’r adborth o’n digwyddiadau ni.

"Roedd llawer o'r pynciau gafodd eu trafod yn rhai y gwnaethon ni eu clywed gan y 3,200 o ffermwyr ddaeth i ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru. 

"Fe ddywedais i eto wrthyn nhw fod yr ymgynghoriad hwn yn un trylwyr.  A dydy e ddim wedi dod i ben eto, a dw i'n dal i annog pobl i gymryd rhan a dweud eu dweud. Byddem yn ystyried pob ymateb unigol.

“ Pan ddaw'r ymgynghoriad i ben, bydda' i'n dadansoddi'r ymatebion yn fanwl, ac fel y dywedais o'r blaen bydda i'n disgwyl newid y cynllun o ganlyniad.

"Mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn cyfrannu at yr ymgynghoriad.  Da chi, gwnewch amser i ymateb. Mae'ch barn yn cyfrif."