Blas llwyddiant o £38 miliwn ar fwyd a diod Cymru
£38 million taste of success for Welsh food and drink
Fe wnaeth BlasCymru/TasteWales 2023 gyrraedd y lefel uchaf erioed ar gyfer busnesau bwyd a diod Cymru fel y cadarnhawyd bod gwerthiant posibl wedi cyrraedd £38 miliwn, yn ol cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.
Yn y digwyddiad bob dwy flynedd, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICCW) yng Nghasnewydd, gwelwyd cwmnïau yn y sector yn arddangos eu cynhyrchion o ansawdd uchel i brynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant gartref a thramor.
Cymerodd cyfanswm o 122 o fusnesau bwyd a diod o Gymru ran yn y digwyddiad, ynghyd â 15 Seren Twristiaeth y Dyfodol. Mae'r rhain yn fusnesau newydd yng Nghymru sydd wedi datblygu eu busnes yn ystod y 12 mis diwethaf.
Croesawodd Cymru 276 o brynwyr masnach, gan gynnwys 30 o brynwyr rhyngwladol o 11 gwlad.
Mae BlasCymru/TasteWales wedi cael cydnabyddiaeth barhaus gan brynwyr rhyngwladol ac mae wedi cyfrannu at y llwyddiant rhyfeddol o ran allforio bwyd a diod o Gymru yn fyd-eang.
Roedd digwyddiad 2023 hefyd yn arddangos 14 o gynhyrchion Cymreig gwarchodedig gyda statws Dynodiad Daearyddol (GI) fel Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae gan Gymru rai o'r cynnyrch bwyd a diod gorau yn y byd ac mae'n newyddion gwych bod gwerth £38 miliwn o gytundebau posibl ac wedi'u cadarnhau, yn ogystal â chyfleoedd busnes eraill, wedi'u gwireddu yn BlasCymru/TasteWales 2023. Bydd y ffigur hwn yn tyfu dros amser wrth i sgyrsiau cychwynnol, o'r 2,100 o gyfarfodydd a drefnwyd, gael eu gweithredu.
"Yn ystod y digwyddiad, dangoswyd 203 o gynhyrchion newydd ac mae hyn yn dyst i natur ddeinamig ac arloesol ein diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru.
"Mae'r sector wedi wynebu ei heriau dros y blynyddoedd, ond mae'n amlwg ei fod wedi dangos gwydnwch a chystadleurwydd, gan gynnwys drwy greu cynnydd canrannol mwy mewn twf allforio na rhanbarthau tebyg yn y DU.
"Yn rhyngwladol, mae Cymru wedi cael ei chydnabod fwyfwy fel Cenedl Fwyd, gyda safonau uchel o gynnyrch o safon, moeseg bwyd, ac entrepreneuriaeth. Byddwn yn parhau i gefnogi'r sector i adeiladu ar hyn."