Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi cyllid newydd Coetiroedd Bach yn ysgol Caernarfon
First Minister announces new Coetiroedd Bach funding at Caernarfon school
Heddiw, wrth ymweld ag ysgol Pendalar yng Nghaernarfon, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, fod y rownd nesaf o gyllid ar gyfer y cynllun Coetiroedd Bach bellach ar agor.
Nod y grant Coetiroedd Bach yw creu coetiroedd bach iawn, gan annog bioamrywiaeth a natur, gyda'r holl safleoedd yn dod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol. Hyd yn hyn mae 10 o Goetiroedd Bach wedi cael eu cefnogi.
Mae Coetir Bach Ysgol Pendalar yn cynnwys coed sydd wedi'u hen sefydlu, tra bod nodweddion ychwanegol yn cynnwys llwybr tarmac i alluogi mynediad â chadair olwyn ac ardal eistedd fwy o amgylch pwll tân.
Caiff coetir yr ysgol ei defnyddio fel ystafell ddosbarth awyr agored gan bob disgybl ar ddydd Mercher, ac roedd y Prif Weinidog ynghyd â Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn falch o ymuno â nhw heddiw.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Rwy'n falch o fod yma heddiw yn Ysgol Pendalar i weld effaith y cynllun ar y diwrnod y bydd y rownd nesaf o geisiadau am gyllid yn agor.
"Mae'n wych gweld yr effaith gadarnhaol y mae natur a bod yn yr awyr agored yn ei chael ar y plant.
"Er nad yw'r lleoedd hyn yn fawr, gallant gael effaith enfawr ar fioamrywiaeth a'n llesiant. Mae'r mannau gwyrdd hygyrch hyn sy'n llawn natur yn darparu cyfleoedd i greu bioamrywiaeth gyfoethog, gan allu denu mwy na 500 o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion o fewn y tair blynedd gyntaf."
Dywedodd Gweinidog y Gogledd, Lesley Griffiths: "Mae'n bleser gweld y disgyblion yn ailgysylltu â natur, ac yn cael cyfle i fod yn yr awyr agored yn dysgu ac yn cael hwyl. Mae gallu mwynhau'r awyr agored fel hyn yn brofiad cadarnhaol i bawb."
Dywedodd Pennaeth Ysgol Pendalar, Deiniol Harries: 'Pwy fyddai wedi meddwl y bydden ni'n gallu cael ein coedwig fach ein hunain, yn ein gardd gefn! Mae hyn wedi rhoi cyfle i'n disgyblion adnabod coed sy'n frodorol i'w cynefin ac i weld pa fywyd gwyllt sydd i'w gweld yma, ar eu carreg drws.
"Mae hyn wir wedi bod yn gaffaeliad mawr i'n hysgol gyda sesiynau ysgol goetir wythnosol yn cynnig cyfle i ddisgyblion gysylltu â natur ac i ddeall pwysigrwydd bod yn yr awyr agored a theimlo sut mae o fudd i'n llesiant."
Mae sefydliadau, cymunedau ac unigolion sydd am greu coetir newydd wedi'i blannu'n ddwys, oddeutu maint cwrt tenis, a reolir mewn cydweithrediad â'r gymuned leol, yn gallu gwneud cais am grantiau rhwng £10mil a £40mil ar gyfer pob safle coetir (hyd at £250mil ar gyfer safleoedd lluosog) tan 8 Mai.
Caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Loteri Genedlaethol a'i hwyluso gan Earthwatch Europe a fydd yn cefnogi sefydliadau a chymunedau gyda chyngor ac arweiniad ar waith paratoi, plannu a chynnal a chadw'r safle.
Mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais am y cyllid ar gael yma (https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/140396)
Nodiadau i olygyddion
Nodyn
Bydd tair gweminar a dau ddiwrnod agored yn cael eu cynnal ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gwneud cais i gael gwybod mwy, gofyn cwestiynau a gweld Coetiroedd Bach ar waith.
Gweminarau
Dydd Mawrth 5 Mawrth - 10-12pm
Dydd Llun 18Mawrth – 12-2pm:
Dydd Mercher 10 Ebrill – 4-6pm:
Diwrnodau agored
12 Mawrth - 10.30-12.30
Coetiroedd Bach - Parc Tref Caergybi - https://forms.office.com/e/6dtPEaLrES
21 Mawrth - 10.30-12.30
Coetiroedd Bach – Parc Pencoedtre, Y Barri - https://forms.office.com/e/ePJqnMnWAf