English icon English

Llywodraeth Cymru yn nodi ei dull gweithredu o ran cyllideb 2026-27

Welsh Government sets out 2026-27 budget approach

Heddiw mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi nodi dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran Cyllideb 2026-27 – y Gyllideb olaf cyn etholiad y Senedd.

Caiff cyllideb un flwyddyn ei chyhoeddi ym mis Hydref, a fydd yn cynyddu cyllidebau adrannol yn ôl chwyddiant. Bydd cronfa o gyllid heb ei ddyrannu yn cael ei greu ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Wrth nodi'r dull mewn datganiad i'r Cyfarfod Llawn, dywedodd Mark Drakeford:

“Rwyf am sicrhau ein bod yn darparu canlyniad sefydlog a dibynadwy i'n gwasanaethau cyhoeddus a phawb sy'n dibynnu arnyn nhw.

“Rwyf am sicrhau hefyd fod gan y Senedd newydd yr ydym wedi gweithio mor galed i'w chreu'r llwyfan gorau posibl i gyflawni ei gwaith, i fynd ati'n gynnar i gysoni cyllidebau â'i blaenoriaethau a datblygu Rhaglen Lywodraethu newydd.

“Mae'r dull gweithredu hwn o ran Cyllideb 2026-27 yn un cyfrifol. Bydd yn darparu i'r llywodraeth nesaf gyflawni'r addewidion y mae'n eu gwneud yn ystod yr etholiad o'r cychwyn cyntaf, gan roi sicrwydd yr un pryd hefyd i wasanaethau cyhoeddus mewn blwyddyn etholiadol.”

Ar 14 Hydref bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft Amlinellol. Bydd hon yn nodi'r dyraniadau lefel uchel ar gyfer pob Ysgrifennydd Cabinet. Bydd y Gyllideb Ddrafft fanwl â llinellau gwariant yn y gyllideb yn dilyn ar 3 Tachwedd. Caiff y Gyllideb Derfynol ei chyhoeddi ar 20 Ionawr 2026, gyda dadl a phleidlais wedi'u trefnu ar gyfer 27 Ionawr.

Cadarnhaodd Mark Drakeford fod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru heb newid – sef canolbwyntio ar Gymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cysylltu cymunedau, a chyfleoedd i bob teulu.

Ni fydd Cyllideb 2026-27 yn cyflwyno ymrwymiadau gwario newydd mawr.

Nodiadau i olygyddion

The 2026-27 budget is the final budget before the May 2026 Senedd election

Key budget dates:

  • 14 October 2025: Outline Draft Budget published.
  • 3 November 2025: Detailed Draft Budget published.
  • 20 January 2026: Final Budget published.
  • 27 January 2026: Final Budget debate and vote.