English icon English
MD Ysgol Henry Richard 2-2

Ysgol yng Ngheredigion yn croesawu taith addysg cyfrwng Cymraeg

Ceredigion school embraces Welsh medium education journey

Bu Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, ar ymweliad ag Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, a chanmolodd y cynnydd y mae wedi'i wnaed tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.

Gwelodd raglen drochi'r ysgol ar waith sy'n helpu dysgwyr o gefndiroedd di-Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau iaith. Cyfarfu hefyd ag athrawon sydd wrthi'n dysgu Cymraeg eu hunain. Un o'r rhain yw Tom Trevarthen, Pennaeth Saesneg yr ysgol, a gyrhaeddodd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023.

Symudodd Mr Trevarthen i Gymru o Loegr yn 18 oed. gan ddechrau dysgu Cymraeg yn 2022 ar gwrs haf dwys. Yn ystod yr ymweliad, eglurodd sut mae'n defnyddio'r Gymraeg wrth addysgu.

Dywedodd Mark Drakeford: "Mae cwrdd ag athrawon ymroddedig fel Mr Trevarthen, sy'n croesawu'r Gymraeg ochr yn ochr â'u pwnc arbenigol, yn dangos gwir effaith ein polisïau iaith ac yn sicrhau bod yr iaith yn mynd o nerth i nerth yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi.

"Dyma'n union sydd angen yn ein hysgolion - gweld y gweithlu addysg yn croesawu'r  Gymraeg. Dyma pam ein bod yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i holl staff ein hysgolion."

Daw'r ymweliad hwn yn fuan wedi i'r Senedd basio Bil y Gymraeg ac Addysg yn unfrydol - Bil sy'n cryfhau addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Mae Ceredigion eisoes ar flaen y gad o ran yr ymdrechion i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac mae pum ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ar fin newid cyfrwng iaith y dysgu sylfaen i'r Gymraeg erbyn Medi 2027. Mae hyn eisoes wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghanran y dysgwyr sy'n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, mae pob ysgol uwchradd yn y sir hefyd yn datblygu cynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Roedd yn hyfryd croesawu’r Gweinidog Mark Drakeford i Ysgol Henry Richard ddydd Llun. Roedd yn bleser rhannu gwaith ardderchog yr ysgol o ran trochi a chymhathu disgyblion i addysg Gymraeg a hynny o fewn cymuned ddwyieithog Tregaron. Cafwyd trafodaethau defnyddiol ynghylch cyfleoedd Bil y Gymraeg ac Addysg ac roedd ymatebion disgyblion a staff i’r trafodaethau hynny yn rhai positif a chynhyrchiol iawn.”