English icon English
Celtic Exchange 2-2

Pobl greadigol ifanc yr ieithoedd Celtaidd yn uno mewn rhaglen gyfnewid arloesol

Young Celtic language creatives unite in innovative exchange

Mae siaradwyr Cymraeg, Cernyweg, Gaeleg yr Alban a’r Iaith Wyddeleg wedi bod yn rhan o raglen gyfnewid arloesol sy'n dathlu'r dreftadaeth ieithyddol y maen nhw'n ei rhannu.

Yn sgil y Rhaglen Gyfnewid Geltaidd, a ddatblygwyd gan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, tynnwyd ynghyd weithwyr proffesiynol creadigol ifanc i ddysgu sgiliau newydd ym maes y cyfryngau a chyd-greu deunydd amlieithog, gan archwilio eu gwreiddiau diwylliannol cyffredin ar yr un pryd.

Teithiodd y bobl ifanc drwy'r Hebrides Allanol a chyfarfod â gwneuthurwyr ffilmiau, crewyr deunydd a cherddorion i ddysgu sut mae'r ieithoedd hynafol hyn yn rhan annatod o'u gwaith creadigol modern.

Fe wnaethant ddarganfod mwy am y tebygrwydd rhwng eu hieithoedd a'u diwylliannau, ac adeiladu rhwydwaith newydd a ffres i ddatblygu syniadau a deunydd amlieithog yn y dyfodol.

Mae Ifan Prys yn gweithio yn Rondo, ac roedd yn rhan o'r rhaglen gyfnewid. Dywedodd: "Roedd y daith yn gyfle unigryw i gwrdd â chrewyr cynnwys o wledydd Celtaidd eraill, i rannu syniadau a chryfhau’r rhwydweithiau rhwng ein cymunedau ieithyddol.

“Roedd y rhaglen yn llawn gweithgareddau amrywiol a chyfoethog. Cawsom gyfle i rwydweithio gyda staff MG ALBA, BBC Alba a chynhyrchwyr lleol, gan drafod ein cyfleoedd, heriau ac uchelgeisiau.

"Roedd y cyfle i ddysgu, rhannu ac ysbrydoli ochr yn ochr â phobl greadigol o gefndiroedd ieithyddol amrywiol yn amhrisiadwy. Mae wedi atgyfnerthu’n wirioneddol y pwysigrwydd o barhau i weithio’n greadigol yn ein hieithoedd ni."

Cafodd y bobl ifanc greadigol brofiad ymarferol drwy gynhyrchu deunydd amlieithog, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2025 yn Newquay, Cernyw.

Roedd Bethan Campbell o Boom Cymru hefyd yn rhan o’r rhaglen gyfnewid. Dywedodd: “Roedd y daith i’r Alban yn brofiad arbennig iawn.  Roedd y gweithgareddau cafwyd eu trefnu’n werthfawr ac amrywiol iawn. 

“Nes i wir fwynhau’r cyfan gan greu atgofion i’w trysori. Yr uchafbwynt oedd treulio amser efo’r criw o bobl ifanc oedd gyda ni, a chreu ffrindiau o bob cornel o Brydain gan rannu straeon, profiadau a’n dymuniadau at y dyfodol!   Roedd hi’n ysbrydoledig cael cyd-weithio efo bobol brwdfrydig a chreadigol a’r cyfan yn atgyfnerthu'r angen i greu cynnwys yn ein hieithoedd ein hunain.

“Diolch o galon i bawb fuodd yn rhan o drefnu’r cyfan. Dydi profiadau fel hyn ddim yn digwydd yn aml, a dwi’n teimlo mor ffodus.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r Rhaglen Gyfnewid Geltaidd yn dathlu ein hieithoedd byw ac yn cefnogi pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd creadigol, gan ddefnyddio eu hieithoedd brodorol, lle bynnag y maent yn dewis byw a gweithio. Rydyn ni'n falch o weithio gyda'n partneriaid ar draws y cenhedloedd i dyfu ein hieithoedd, cryfhau ein cysylltiadau diwylliannol a helpu pobl i ddatblygu cyfleoedd a gyrfaoedd yn eu hieithoedd brodorol."