Lansio ymgynghoriad i roi mwy o hyblygrwydd i lety gwyliau
Consultation launched to give holiday lets more flexibility
Mae cynigion newydd wedi cael eu hawgrymu i addasu'r ffordd y mae rheolau treth ar gyfer perchnogion llety gwyliau hunanddarpar yn cael eu cymhwyso.
Ers mis Ebrill 2023, rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael am 252 diwrnod a'u gosod am 182 diwrnod bob blwyddyn i dalu ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor. Cafodd y rheolau eu cyflwyno i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg at eu cymuned leol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddau newid allweddol i'r ffordd y mae'r rheolau'n cael eu cymhwyso, er mwyn rhoi sefydlogrwydd ychwanegol i'r sector:
- Caniatáu i berchnogion llety gwyliau ddefnyddio 182 diwrnod ar gyfartaledd dros sawl blwyddyn. Mae hyn yn golygu y byddai'r rhai sydd wedi colli'r cyfle, o drwch blewyn, i osod eu llety gwyliau am 182 diwrnod yn y flwyddyn ddiweddaraf yn aros ar ardrethi annomestig os oeddent wedi ei gyflawni ar gyfartaledd dros ddwy neu dair blynedd flaenorol.
- Caniatáu hyd at 14 diwrnod o wyliau am ddim a roddir i elusen i gyfrif tuag at y targed o 182 diwrnod.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a ddylai cynghorau ystyried rhoi mwy o amser i fusnesau addasu, megis cyfnod gras o 12 mis cyn y gallent orfod talu cyfraddau treth gyngor uwch pan fyddant yn symud o ddosbarthiad annomestig i ddosbarthiad domestig.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: “Ry'n ni'n gwybod bod twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at economi a bywyd Cymru. Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig, ac ry'n ni am sicrhau ein bod yn gwireddu'r potensial hwnnw mewn ffordd sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng ein cymunedau, ein busnesau, ein tirweddau a'n hymwelwyr.
“Ry'n ni cydweithio'n agos â busnesau twristiaeth a lletygarwch i helpu i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw'n eu hwynebu, gan sicrhau bod pawb yn gwneud cyfraniad teg tuag at economïau lleol ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
“Er bod y rhan fwyaf o berchnogion llety gwyliau eisoes yn bodloni'r rheolau newydd a gyflwynwyd o 2023, gyda 60% o eiddo yn bodloni'r meini prawf gosod, rydym wedi gwrando ar y rhai sy'n gweithio yn y sector ac yn cynnig newidiadau bach i'r rheolau presennol i'w cefnogi.”
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 20 Tachwedd. Ymatebwch yma.
Nodiadau i olygyddion
Subject to the outcome of the consultation, legislation would be required to implement these proposals. Any legislative changes would be intended to take effect on 1 April 2026.