Dros 4,600 o gartrefi a busnesau i elwa o'r lefel uchaf erioed o gyllid ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd
Record funding for flood protection to benefit over 4,600 homes and businesses
Bydd Cymru yn gweld ei buddsoddiad uchaf erioed mewn amddiffyn rhag llifogydd eleni, gyda £77 miliwn wedi'i ddyrannu i amddiffyn cymunedau ledled y wlad.
Wrth gyhoeddi Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wrth y Senedd fod yr arian yn dod ar 'adeg dyngedfennol' yn dilyn gaeaf pan welodd llawer o gymunedau Cymru realiti caled newid hinsawdd.
Yn ystod y 12 mis nesaf, bydd 4,640 o eiddo yn elwa ar y cynlluniau newydd sy'n cael eu hariannu drwy'r rhaglen, ac mae hynny'n ychwanegol i'r 11,000 o eiddo a fydd yn elwa ar gynlluniau presennol a fydd yn cael eu cwblhau eleni.
Mae'r cyllid uchaf erioed yn datblygu ar ddwy flynedd yn olynol o fuddsoddiad o fwy na £75 miliwn sy'n cyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu i leihau perygl llifogydd i dros 45,000 o eiddo.
Daw hyn ar ôl i Gyllideb Llywodraeth Cymru basio drwy'r Senedd yn ddiweddar, a ryddhaodd £1.6 biliwn ychwanegol ar gyfer gwariant cyhoeddus.
Mae rhaglen 2025-26 yn cynnwys:
- £36 miliwn mewn cyllid cyfalaf, gyda £22 miliwn wedi'i ddyrannu i Cyfoeth Naturiol Cymru a £14 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru, fel y Bontnewydd yng Ngwynedd, Pentre yn Rhondda Cynon Taf, Gurnos ym Mhowys a Haven Head yn Sir Benfro.
- Dros £24 miliwn mewn cyllid refeniw i Cyfoeth Naturiol Cymru
- Bron i £16 miliwn i awdurdodau lleol, gan gynnwys £11 miliwn ar gyfer y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol
- £2 filiwn ychwanegol i gefnogi 23 o brosiectau rheoli llifogydd naturiol a fydd yn diogelu bron i 2,800 o eiddo
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Y gaeaf diwethaf yn unig, effeithiodd effeithiau dinistriol Stormydd Bert a Darragh ar fwy na 700 o eiddo ledled Cymru, gan bwysleisio pam fod amddiffyn rhag llifogydd yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
"Mae'r digwyddiadau hyn yn atgyfnerthu sut mae'n rhaid i'n rhaglen llifogydd fod yn gadarn - ac yn wir, mae'n gadarn - er mwyn cyflawni cynllun o waith sydd wedi'i gynllunio, a rheoli gofynion unrhyw ymateb brys angenrheidiol."
Darparwyd £8.1 miliwn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf argyfwng yn dilyn stormydd y gaeaf, ochr yn ochr â grantiau cartrefi o £500 a £1,000 i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"O adeiladu amddiffynfeydd caled i gyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur, rydym wedi ymrwymo i helpu i gadw cymunedau'n ddiogel rhag llifogydd.
"Gyda newid yn yr hinsawdd yn cynyddu pa mor aml y mae llifogydd yn digwydd, a pha mor ddifrifol ydynt, rydym yn dangos ein hymrwymiad gyda'r buddsoddiad mwyaf erioed a chamau gweithredu pendant i amddiffyn pobl ledled Cymru."