Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn gweld "cynnydd rhyfeddol" yng Nghwmtyleri
Deputy First Minister sees "remarkable progress" in Cwmtillery
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, wedi ailymweld â Chwmtyleri i gyfarfod â thrigolion a gweld hynt y gwaith adfer ers y tirlithriad sylweddol mewn tomen lo segur a ddigwyddodd yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024.
Yn ystod yr ymweliad, canmolodd ymateb cyflym y gwasanaethau brys a phartneriaid lleol wrth adleoli'r preswylwyr a sicrhau bod y safle'n ddiogel, gan alluogi pobl i ddychwelyd i'w cartrefi cyn gynted â phosibl.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd:
"Roedd y tirlithriad yn brofiad brawychus i'r trigolion lleol, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr a'r rhai y mae'r sefyllfa yn parhau i effeithio arnynt. O gael cyfarfod â'r gymuned eto heddiw mae’n aml fod cynnydd eithriadol wedi'i gyflawni ers fy ymweliad diwethaf ym mis Tachwedd."
Mae'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cynnal archwiliadau wythnosol o'r domen, ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £174,000 ar unwaith i sicrhau y gall gwaith hanfodol barhau heb oedi.
Mae system ddraenio newydd a osodwyd yn dilyn tirlithriad mis Tachwedd wedi bod yn effeithiol yn ystod glawiad diweddar tra bo gwaith monitro ychwanegol ar waith yn ystod tywydd garw.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i weithredu strategaeth hirdymor er mwyn diogelu'r safle at y dyfodol.
Mae'r Cyngor wedi cyflwyno cais am £610,000 o dan y Cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo ar gyfer cyflawni cam nesaf y gwaith o wneud gwelliannau hanfodol i'r seilwaith, gan gynnwys atgyweiriadau i gwlfertau a gwaith draenio.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae'r tirlithriad a ddigwyddodd yn dangos pa mor hanfodol yw ein gwaith o ran diogelwch tomenni glo. Rydym wedi buddsoddi mwy na £100m ers 2022 i helpu i sicrhau bod cymunedau sy'n byw ger hen domenni yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol.
"Ym mis Rhagfyr, fe wnes i hefyd gyflwyno'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) i'r Senedd, a fydd yn moderneiddio deddfwriaeth ac yn sefydlu corff cyhoeddus newydd erbyn mis Ebrill 2027 i sicrhau diogelwch hirdymor y safleoedd hyn.
"Yn y cyfamser, mae ein rhaglen waith yn mynd rhagddi o hyd a byddaf yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyflawni trefn effeithiol o ran prosesau archwilio a gwaith cynnal a chadw ledled Cymru."