English icon English

Naw ffordd y defnyddiwyd £150m i adfer natur yn ystod tymor y Senedd hon

Nine ways in which £150m has been used to restore nature this Senedd term

Gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu'n llwyr yng Nghymru, ni fu erioed yn bwysicach adfer a chryfhau cysylltiad pobl â natur.

Heddiw, mae Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd wedi amlinellu'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £150m ar adfer natur yn ystod tymor y Senedd hon.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd: “Mae adfer natur yn golygu adfer y lleoedd rydyn ni'n byw ynddynt ac yn eu mwynhau.

“Mae'n darparu swyddi gwyrdd, yn cefnogi economïau lleol a gwledig ac yn sail i'r economi mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys cynhyrchu bwyd a thwristiaeth.

“Dyna pam, yn ystod tymor y Senedd hon yn unig yr ydym wedi buddsoddi dros £150m er mwyn adfer natur a gwella mynediad at natur ar stepen drws pobl.

“Bydd adfer a chysylltu pobl â natur hefyd yn sicrhau manteision yn y dyfodol – gan wella ein gallu i wrthsefyll newid hinsawdd a chryfhau ein gallu i reoli'r tir a'r môr yn gynaliadwy.

“Y gwaddol gorau y gallwn ei adael i genedlaethau'r dyfodol yw amgylchedd naturiol sy'n adfer a all eu cefnogi hwy fel y mae wedi'n cefnogi ni”

1. Creu rhagor o leoedd i bobl eu mwynhau

Yn ystod tymor y Senedd hon, mae Llywodraeth Cymru wedi creu dros 4,000 o fannau gwyrdd, 790 o safleoedd tyfu bwyd cymunedol, 670 o berllannau cymunedol ac 80 o erddi synhwyraidd therapiwtig drwy raglan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

2. Dros £54m ar gyfer Rhwydweithiau Natur

Mae dros £54m wedi'i fuddsoddi yn y Rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella safleoedd gwarchodedig a chysylltu pobl â natur. 

Mae hyn yn cynnwys ariannu lleoedd fel y Fferm Chwilod yn Nhyddewi a phrosiectau fel Jinx y ci bioddiogelwch, sydd wedi helpu i ddiogelu poblogaeth adar môr Cymru sy'n bwysig yn fyd-eang ond mewn perygl ar ynysoedd fel Ynys Dewi yn Sir Benfro.

3. Ehangu'r Goedwig Genedlaethol

Bellach mae gan y Goedwig Genedlaethol dros 100 o safleoedd sy'n creu rhwydwaith o goetiroedd a reolir yn dda ar hyd a lled Cymru.

4. £8m ar gyfer Buddsoddi mewn Coetiroedd

Mae'r Grant Buddsoddi mewn Coetir a'r cynlluniau Coetiroedd Bach wedi creu a gwella coetiroedd ledled Cymru, gyda thros £8m yn cael ei ddyfarnu i 56 o brosiectau, gan gynnwys Parc Dyfrdwy yn Sir y Fflint a Llandegfedd yn Ne Cymru.

5. Adfer ein hafonydd

Yn ystod tymor y Senedd hon, rhoddwyd £40 miliwn ychwanegol o gyllid i CNC i wella ansawdd dŵr ac adfer afonydd drwy brosiectau fel Nant Dowlais.

6. Helpu cynefinoedd

Mae Cynllun Cynefin Cymru wedi cefnogi ffermwyr i gynnal a gwella cynefinoedd ar eu tir.  Yn 2024, dyrannwyd £16m gyda 341,794 ha dan gytundeb. Rydym hefyd wedi cynnig contractau i ffermwyr i gefnogi gwaith creu ac adfer dros 300 km o wrychoedd.

7. Diogelu mawndiroedd

Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd wedi adfer dros 3,000 o gaeau rygbi o fawndir, gan gyrraedd ein targed flwyddyn cyn pryd. Mae 1.6m tunnell  o garbon wedi'i ddiogelu, ac mae allyriadau carbon wedi gostwng 8,000 tunnell y flwyddyn, sy'n cyfateb i 5,700 o allyriadau ceir.  Mae adfer mawndir hefyd yn cefnogi'r gwaith o reoli llifogydd yn naturiol ac yn gwella ansawdd dŵr.

8. Achub morwellt

Bydd Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol yn golygu y bydd 266 hectar o forwellt yn cael ei adfer erbyn 2030 o Sir Benfro i Draeth Penial yng Nghaergybi – sy'n cyfateb i 266 o gaeau rygbi.

9. Mynd i'r afael â sbwriel môr

Mae Cymru'n arwain y ffordd drwy fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun ailgylchu ar gyfer offer pysgota. Mae'r cynllun offer pysgota diwedd oes wedi casglu 12 tunnell o offer, gan leihau llygredd plastig yn ein moroedd ac atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu dal a mynd yn sownd.