Y lefel uchaf erioed o gyllid ar gyfer gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru
Record funding for safety works at more than 130 coal tip sites across Wales
Mae bron i £34m o fuddsoddiad i gyflawni gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru yn cynrychioli'r rhaglen ddiogelwch fwyaf hyd yma.
Cafodd yr arian ei gadarnhau gan y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford ar ymweliad â Phwll Glo Dyffryn Rhondda yng Nghwm Afan heddiw.
Mae'r cyllid yn rhan o Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru.
Nawr bydd 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith ar safleoedd, gan gynnwys Cwmtyleri, lle bu tirlithriad ym mis Tachwedd y llynedd, a Tylorstown a lithrodd yn dilyn lefelau digynsail o law yn 2020.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Rwy'n falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £34 miliwn i gefnogi 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith hanfodol ar draws 130 o domenni glo ledled Cymru.
"Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'n buddsoddiad blaenorol o £19.2 miliwn yn 2024-2025, ac yn nodi'r gwariant blynyddol uchaf ar ddiogelwch tomenni glo yr ydym erioed wedi ymrwymo iddo.
"O'i gyfuno â'r buddsoddiad o £25 miliwn gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref, byddwn wedi neilltuo dros £100 miliwn i ddiogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon - gan ddangos ein hymrwymiad i amddiffyn cymunedau a mynd i'r afael â'r her seilwaith hanfodol hon."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r Llywodraeth hon yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ddiogelu ein cymunedau.
"Ar ôl ymweld â thrigolion sy'n byw ger y safleoedd hyn a chlywed eu pryderon o lygad y ffynnon, rwy'n falch o gyhoeddi'r lefel ddigynsail hon o gyllid, buddsoddiad a fydd yn sicrhau gwelliannau diogelwch credadwy i'r cymunedau hyn.
"Ym mis Rhagfyr, cyflwynais y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) i'r Senedd, y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU sy'n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu systemau diogelwch cynhwysfawr ar gyfer tomenni nas defnyddir.
"Os caiff ei phasio, bydd y ddeddfwriaeth arloesol hon yn sefydlu corff cyhoeddus pwrpasol i ddiogelu rhag bygythiadau gan domenni ansefydlog. Byddai'r awdurdod newydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros asesu, cofrestru, monitro a rheoli'r safleoedd hyn ledled Cymru, gan helpu rhoi tawelwch meddwl i gymunedau cyfagos."
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: "Mae sicrhau bod tomenni glo ledled Cymru yn parhau i fod yn ddiogel yn hollbwysig a dyma pam y gwnaeth Llywodraeth y DU ymrwymo £25m yng Nghyllideb yr Hydref tuag at y gwaith hanfodol hwn.
"Dyma enghraifft arall o sut mae dwy lywodraeth sy'n gweithio mewn partneriaeth yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru."
Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Rwy'n croesawu'r buddsoddiad enfawr hwn mewn ariannu gwaith diogelwch tomenni glo yng Nghymru yn fawr. Mae'r tomenni hyn yn symbol gweladwy o'r ffordd y gwnaeth cloddio am lo siapio'r cymoedd, ond flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, mae'r tomenni'n dal i achosi problemau sy'n ymwneud â diogelwch a llygredd y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar frys."
Mae manylion y cyllid isod:
Ymgeisydd |
Cyfanswm Gwobr |
Blaenau Gwent |
£1,997,100.00 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
£1,835,000.00 |
Caerffili |
£2,780,445.16 |
Caerdydd |
£110,000.00 |
Merthyr Tudful |
£4,279,287.00 |
Mynwy |
£16,157.00 |
Castell-nedd Port Talbot |
£6,345,000.00 |
CNC |
£2,298,739.00 |
Rhondda Cynon Taf |
£11,493,605.00 |
Torfaen |
£1,982,521.00 |
Wrecsam |
£823,928.93 |
CYFANSWM |
£33,961,783.09 |