Dweud eich dweud ar strategaeth newydd Cymru ar gyfer pren
Have your say on Wales’ new timber strategy
Gyda'r galw byd-eang am bren yn debygol o gynyddu bedair gwaith erbyn 2050, sut y gall Cymru elwa ar y twf disgwyliedig gan ddiogelu, ar yr un pryd, ei choedwigoedd at y dyfodol?
Dyna'r cwestiwn yr hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn arno cyn lansio strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn ddiweddarach eleni.
Pan fydd yn barod, bydd y strategaeth newydd yn nodi llwybr clir ar gyfer sut y bydd y llywodraeth a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau economi ffyniannus sy'n seiliedig ar bren yng Nghymru.
Bydd yn cynnwys cynlluniau i ddiogelu coedwigoedd at y dyfodol, creu swyddi gwyrdd yn y diwydiant pren, datblygu tai mwy cynaliadwy a hybu datgarboneiddio.
Yn gynharach yr wythnos hon teithiodd y Dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies i Benrhyndeudraeth i weld enghraifft o sut y gall pren weithio i Gymru.
Yno fe ymwelodd â Maes Deudraeth – prosiect tai cymdeithasol newydd sy'n defnyddio fframiau pren – a choedwig Hafod Boeth lle dysgodd fwy am gynhyrchu pren yng Nghymru gan weithwyr yng Nghoedwigaeth Tilhill.
Bu’n cyfarfod â'r tenantiaid, a fu’n siarad am fanteision byw mewn cartrefi carbon isel, ffrâm bren, a hefyd gyda phrentisiaid ar y ddau safle sy’n dysgu sgiliau gwyrdd yn y broses o adeiladu tai a chynhyrchu pren.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Mae pren yn hanfodol er mwyn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Mae'r sectorau coedwigaeth, pren ac adeiladu yn cynnig gyrfaoedd amrywiol, gan gynnwys swyddi gwyrdd â chyflog uchel, sydd hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
"Drwy weithio gyda diwydiant, gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o greu a gwerthu cynhyrchion coedwig o goedwigoedd adnewyddadwy, cynaliadwy sy'n cael eu rheoli'n gyfrifol.
"Rydym am i'n coedwigoedd ddod â manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru am ganrifoedd lawer i ddod. Dyna pam y byddwn yn annog pawb i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad pwysig hwn."
Ychwanegodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: "Yn ogystal â'i gyfraniad cadarnhaol at hybu swyddi a thwf gwyrdd, mae pren hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o gartrefi cynaliadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel. Mae hefyd yn helpu ein huchelgais i gyrraedd Sero Net erbyn 2050.
"Mae pren yn cynnig dewis arall carbon isel yn lle deunyddiau sy'n ymgorffori lefelau uchel o garbon, fel concrit. Ochr yn ochr â ffibr pren, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dulliau adeiladu sy'n defnyddio llai o garbon, datrysiadau paneli pren a gweithgynhyrchu oddi ar y safle.
"Gellir adeiladu cartrefi ffrâm bren yn gyflymach hefyd, gan helpu i ddarparu cartrefi mwy gwydn, iach a chynaliadwy o ansawdd uchel i bobl yng Nghymru, gan gynnwys tai cymdeithasol.
"Wrth inni weld mwy a mwy o alw am gartrefi cymdeithasol ffrâm bren carbon isel, rwy'n hynod falch o weld yr ymgynghoriad pwysig hwn yn cael ei lansio."
Gallwch ddweud eich dweud ar y strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yma: https://www.llyw.cymru/y-strategaeth-ddiwydiannol-ar-gyfer-pren
DIWEDD