English icon English
WAG Sero repair cafe carmarthen 4362-2

Cymru'n arbed £1m drwy drwsio nid gwario

Wales saves £1m by mending not spending

Mae caffis trwsio sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn helpu pobl, natur a'n hinsawdd drwy drwsio dros 21,000 o eitemau am ddim, gan arbed arian a lleihau gwastraff. Mae wedi cyrraedd carreg filltir ryfeddol gan arbed dros £1m i bobl mewn gwaith trwsio am ddim.

Mae Caffi Trwsio Cymru yn annog pobl i drwsio yn hytrach na phrynu eitem yn lle'r un sydd wedi torri yn ystod 'Fix-it February' a thu hwnt, drwy fynd â rhywbeth i'w caffi trwsio lleol i'w drwsio am ddim. Mae Caffi Trwsio Cymru yn anelu at drwsio 1,000 o eitemau dros y mis, a fyddai'n arbed cymaint o garbon â thynnu car oddi ar y ffordd am 360,000 o filltiroedd.

Gall unrhyw un ddod ag eitem sydd wedi torri neu'i difrodi i gaffi trwsio lle gall gwirfoddolwyr helpu i'w thrwsio am ddim – yn amrywio o electroneg a dillad i ddodrefn ac offer cartref. Mae caffis trwsio yn helpu pobl i wneud y mwyaf o'r eitemau sydd ganddynt eisoes i helpu i fynd i'r afael â'r 'diwylliant taflu'.

Mae Cronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn sefydliadau cymunedol fel Caffi Trwsio Cymru, sydd wedi ehangu ei rwydwaith i dros 126 o gaffis trwsio ledled y wlad. Bob mis rydym yn helpu cannoedd o bobl i ddefnyddio eu heidio cyhyd â phosibl.

Ymwelodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, â chaffi trwsio yng Nghaerfyrddin. Daeth â maneg feicio wedi'i difrodi a gafodd ei thrwsio gan wirfoddolwr yn ystod ei ymweliad.

Dywedodd: "Mae llwyddiant Caffi Trwsio Cymru yn dangos yr hyn y gall ein cymunedau ei gyflawni drwy gydweithio. Wedi'i gefnogi gan 1,000 o wirfoddolwyr ymroddedig bob mis, nid trwsio eitemau yn unig sy’n cael ei wneud yn y caffis, maent yn gweithredu i helpu'r hinsawdd ac arbed arian i bobl. Mae'r holl newidiadau bach yn wir yn gwneud gwahaniaeth mawr.

"Mae hyn, ynghyd â Chymru'n dod yn ail yn y byd ar gyfer ailgylchu trefol, yn dangos cynnydd gwirioneddol tuag at roi terfyn ar y diwylliant taflu a thyfu economi wyrddach."

Dywedodd Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru: "Rydym yn hynod falch o'r cyflawniad hwn, sy'n dyst i ymdrech a sgil ein gwirfoddolwyr gwych. Gall cael eitem, fel beic neu liniadur, wedi'i thrwsio am ddim yn un o'n caffis trwsio arwain at arbediad ariannol sylweddol i deulu lleol, sy'n arbennig o fuddiol yn yr hinsawdd sydd ohoni."

DIWEDD