Newyddion
Canfuwyd 219 eitem, yn dangos tudalen 8 o 19
Diweddariad ynghylch Pont Menai 20/04/2023
Mae’r rhestr o gwestiynau cyffredin ynghylch Pont Menai wedi’i diweddaru.
Llywodraeth Cymru'n parhau i gyllido cynlluniau e-feiciau llwyddiannus
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dau gynllun ar gyfer benthyca e-feiciau sydd wedi llwyddo i annog mwy o drigolion lleol i gyfnewid eu car am feic mewn cymunedau ar draws Cymru yn derbyn arian ychwanegol am flwyddyn arall.
Pwerau newydd yn dod i rym i awdurdodau lleol fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwag
Daw rheolau treth lleol newydd i rym heddiw a fydd yn rhoi gwell cefnogaeth i gymunedau Cymru fynd i’r afael â’r lefelau uchel o ail gartrefi ac eiddo gwag.
Datganiad ar y Cyd am y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau
Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru (ATCO), Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chymdeithas Bysiau Cymru.
Cam pwysig ymlaen i ddiogelwch tomennydd glo
Heddiw, mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymateb manwl Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Reoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru.
Rhaglen diogelwch adeiladau’n gwneud i drigolion deimlo’n ‘ddiogel a saff yn eu cartrefi’
Mae datblygiadau pwysig wedi’u gwneud i’r camau y mae Llywodraeth yn eu cymryd i daclo problem diogelwch tai.
Bydd pwerau newydd i fynd i’r afael â llygredd aer a sŵn yn arwain at ‘ddyfodol glanach, iachach a gwyrddach’
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi dweud y bydd pwerau newydd i ymdrin â llygredd aer a sŵn yn arwain at Gymru lanach, iachach a gwyrddach.
Lleihau llygredd afonydd drwy gynllun gweithredu newydd a gytunwyd mewn uwchgynhadledd o dan arweiniad Llywodraeth Cymru
"Rydym yn lywodraeth sydd wedi ymrwymo i'n hafonydd."
Data newydd yn dangos manteision gyrru ar gyflymder o 20mya wrth i Gymru baratoi i ostwng y terfyn cyflymder diofyn
Mae prif ganfyddiadau adroddiad newydd a luniwyd mewn ardaloedd sy’n treialu’r cyflymder 20mya diofyn newydd wedi dangos cyflymder gyrru arafach, lefelau uwch o gerdded a chyn lleied â phosibl o effaith ar amseroedd teithio, ymhlith eraill.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r cynigion i foderneiddio gwasanaethau tacsi yng Nghymru
Mae’r cynlluniau i foderneiddio gwasanaethau tacsi yng Nghymru wedi’u nodi mewn papur gwyn ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, 9 Mawrth).
Cynllun newydd i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a gweithwyr heddiw i weithio yn swyddi ‘sero net’ y dyfodol
- Bydd cynllun sgiliau sero net newydd yn amlinellu gweledigaeth o'r rôl y bydd sgiliau yn ei chwarae wrth symud Cymru oddi wrth economi tanwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd, fel rhan o broses bontio teg.
- Bydd swyddi sero net yn dod yn gonglfaen diwydiannau newydd y dyfodol, sydd siŵr o fod ddim yn bodoli eto.
- Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr heddiw y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn swyddi newydd economi sero net y dyfodol.
Tair blynedd ers Storm Dennis
Ers i Storm Dennis daro Cymru ym mis Chwefror 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £194m i helpu gyda'r perygl o lifogydd.