Newyddion
Canfuwyd 219 eitem, yn dangos tudalen 1 o 19
Senedd yn pleidleisio i wahardd fêps untro
Mae pleidlais wedi'i phasio yn y Senedd heddiw yn cyflwyno rheoliadau newydd i wahardd cyflenwi fêps untro yng Nghymru.
Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn cadarnhau cyfanswm o dros £100m ar gyfer diogelwch tomenni glo yn nhymor y Senedd hon
Bydd mwy na £100m yn cael ei fuddsoddi mewn diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon.
Deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achoswyd gan orffennol glofaol Cymru
Heddiw, cyflwynwyd Bil a allai weld sefydliad yn cael ei greu a fyddai’n gyfrifol am drefn newydd i reoli tomenni nas defnyddir Cymru, rhai glo a rhai nad ydynt yn domenni glo.
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog – Rhybudd Coch ar gyfer Storm Darragh
Mae Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies yn rhybuddio y gallai effeithiau Storm Darragh fod yn arwyddocaol iawn ac yn annog pobl i fod yn neilltuol o ofalus y penwythnos hwn.
Blwyddyn arall o safonau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel i Gymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ansawdd dŵr ymdrochi 2024, gan adlewyrchu'r ymdrechion parhaus i ddiogelu a gwella iechyd traethau a safleoedd ymdrochi mewndirol Cymru.
Cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan Storm Bert
Bydd cymorth ariannol ar unwaith yn cael ei ddarparu i bobl y mae eu cartrefi wedi dioddef llifogydd yn ystod Storm Bert.
Cynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru
Heddiw, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â Chynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru.
Arweinwyr Brodorol o'r Amazon ym Mheriw yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i symud at ynni adnewyddadwy
Daeth aelodau o genedl yn nyffryn Amazon Periw i Gymru yr wythnos hon i drafod gwaith hanfodol y Wampís i amddiffyn coedwig law yr Amazon a sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu i'w cefnogi i symud at ynni adnewyddadwy.
Uchelgeisiau digidol mewn adrannau brys i helpu i leihau allyriadau carbon
Mae adrannau brys ledled Cymru yn cael eu herio i groesawu technoleg ddigidol mewn ymgais i wneud gofal cleifion yn fwy effeithlon a bod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Mae sioe fodurau cerbydau trydan wedi dod i Gaerdydd fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Techniquest ym Mae Caerdydd, yn caniatáu i ymwelwyr weld a gyrru'r cerbydau trydan diweddaraf sydd ar gael i'w prynu.
Dirprwy Brif Weinidog yn lansio Wythnos Hinsawdd fwyaf Cymru hyd yma
Sut y gall Cymru addasu i hinsawdd sy'n newid?