English icon English

Eco-Ysgol o'r haen uchaf yn helpu natur i ffynnu

Top tier Eco-School helping to improve nature’s chance to thrive

Mae ysgol yng Ngheredigion wedi cael ei chydnabod gan y Dirprwy Brif Weinidog am y camau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Diolch i gyllid a chefnogaeth Llywodraeth Cymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, mae Ysgol Penrhyn-coch ger Aberystwyth wedi creu pwll bywyd gwyllt i gynyddu bioamrywiaeth a chefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau dŵr croyw, gan gynnwys brogaod, madfallod a gweision y neidr – yn ogystal â darparu ffynhonnell yfed i adar yr ardd a mamaliaid fel draenogod yn ystod hafau cynyddol boeth – ochr yn ochr â choed brodorol,  planhigion a llwyni i sicrhau bod gan fyd natur le i ffynnu.

Mae'r ysgol yn Eco-Ysgol Platinwm, y statws uchaf posibl. Mae'r teitl hwn yn cael ei roi i'r rheini sy'n llwyddo i gael y Faner Werdd bedair gwaith - gan ddangos eu hymrwymiad hirdymor i addysg amgylcheddol, cyfranogiad myfyrwyr a chynaliadwyedd.

Eco-ysgolion yw un o'r rhaglenni ysgolion cynaliadwy byd-eang mwyaf - mae'n cysylltu miliynau o blant ar draws 79 o wledydd, gan ddechrau yn yr ystafell ddosbarth ac ehangu i'r gymuned, a chaniatáu i'r genhedlaeth nesaf ddysgu trwy weithredu.

Yng Nghymru, mae 90 y cant o ysgolion ar draws pob Awdurdod Lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen Eco-Ysgolion. Nid yw Ceredigion yn eithriad i'r lefel drawiadol hon o gyfranogiad, gyda 21 o ysgolion wedi derbyn gwobr platinwm, gan rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i'w hysgolion a'u cymuned ehangach.

Mae ysgolion platinwm ymhlith y gorau yn y byd, ac ar ymweliad ag Ysgol Penrhyn-coch i weld y pwll a'r coed newydd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies fod y statws haen uchaf yn esiampl i eraill:

"Mae'r ysgol gynradd hon sydd wedi ennill gwobrau yn helpu i wneud gwahaniaeth i'r ffordd rydyn ni'n meddwl ac yn ymateb i newid hinsawdd. Mae'n esiampl i ysgolion ledled Cymru drwy ddangos yn berffaith sut y gall camau bach helpu Cymru i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

"Rwy'n falch iawn bod y rhaglen Eco-Ysgolion yn datblygu ymwybyddiaeth plant o gynaliadwyedd, gan dynnu sylw disgyblion at le Cymru yn y byd.

"Roedd yn gymaint o bleser ymweld a siarad â rhai o'r myfyrwyr, yn ogystal â'r staff, am y camau hynod gadarnhaol y maen nhw wedi bod yn eu cymryd i helpu ein hamgylchedd."

Wrth siarad â'r Dirprwy Brif Weinidog, ychwanegodd y plant:

"Ry' ni'n gobeithio bod brogaod yn mynd i ddod i ddodwy eu grifft, ac wedyn byddwn ni'n cael gweld llwyth o benbyliaid!"