Newyddion
Canfuwyd 232 eitem, yn dangos tudalen 7 o 20

Prif Weinidog Cymru yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae 20mya yn ei chael yn Saint-y-brid
Heddiw (dydd Iau, 7 Medi), ymwelodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ag un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i dreialu'r terfyn 20mya diofyn newydd i ddysgu mwy am effaith y "newid sylweddol mwyaf mewn diogelwch cymunedol mewn cenhedlaeth".

Rhagor o waith i ddechrau heddiw ar Bont Menai
Bydd y gwaith yn dechrau heddiw (Medi 4ydd) i atgyweirio Pont Menai i sicrhau ei bod yn cael ei hadfer yn barhaol mewn pryd ar gyfer ei phen-blwydd yn 200 oed.

Dathlu blwyddyn o'r rhaglen £76m sy'n helpu i sicrhau bod ‘gan bawb le i'w alw'n gartref’.
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi ymweld â safle yng Nghaerdydd a fydd yn cynnig cartrefi ar gyfer mwy na 150 o deuluoedd yn fuan.

'Damweiniau traffig ar y ffyrdd yw'r achos mwyaf o anaf i blant,' meddai ymgynghorydd brys pediatrig yn ysbyty plant Cymru "
Yn syml, mae lleihau cyflymder yn achub bywydau! Bob blwyddyn yng Nghymru, rydym yn gweld yr effeithiau dinistriol y mae gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yn eu cael ar blant a'u teuluoedd. Nhw yw'r achos unigol mwyaf o anafiadau difrifol i blant sydd fel arfer yn cerdded neu'n beicio."

Bydd Ynni Cymru yn rhyddhau potensial ynni gwyrdd Cymru
Cwmni ynni adnewyddadwy llwyddiannus, sy’n eiddo i’r gymuned oedd y lleoliad perffaith i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian lansio Ynni Cymru – cwmni ynni newydd, sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.

'Gweithio gyda'n gilydd i achub bywydau' - Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r heddlu cyn cyflwyno 20mya
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â heddluoedd i helpu i addysgu modurwyr cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ym mis Medi.

HPAI: Gweinidog yn ymweld ag ynysoedd Sir Benfro wrth i bryder am achosion o ffliw adar gwyllt dyfu
Ymwelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ag Ynys Dewi ac Ynys Gwales heddiw oddi ar arfordir Sir Benfro i asesu graddfa ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) sy'n effeithio ar nythfeydd adar môr gwyllt ledled y DU.

Gwaith ffordd hanfodol i'w wneud ar yr M4
Mae modurwyr yn cael eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio yn ystod y misoedd nesaf gan fod cyfres o waith ffordd mawr a chau lonydd yn dechrau ar ddwy ran wahanol o'r M4 yr haf hwn.

Rhagor o waith yn cael ei wneud ar Bont y Borth
Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun, 4 Medi i adfer Pont y Borth (Pont Menai) i sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn pryd ar gyfer ei 200mlwyddiant.

Cyfyngiadau tynnach ar allyriadau diwydiannol, pŵer ac awyrennau, wrth i’r Deyrnas Unedig arwain y ffordd i Sero Net
- Cyfyngiadau newydd ar allyriadau yn cael eu cadarnhau ar gyfer y sector pŵer, diwydiannau ynni-ddwys a hedfan o 2024
- Estyn y cap ar allyriadau i fwy o sectorau yn y DU – trafnidiaeth forol domestig a gwastraff – yn bwrw ymlaen safle’r DU fel arweinydd byd ym maes datgarboneiddio
- Trawsnewidiad graddol i fusnesau wrth iddynt gymryd y cam nesaf tuag at ddatgarboneiddio, gyda newidiadau’n digwydd fesul cam ac yn cael eu mesur

Tri mis i fynd: Bydd y newid i 20mya yn achub bywydau ac yn cryfhau cymunedau, meddai’r Dirprwy Weinidog
Yn ogystal ag achub bywydau, bydd arafu’r traffig yn cryfhau cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy diogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters dri mis cyn y daw’r terfyn cyflymder 20mya diofyn i rym.

Adeiladu momentwm yn y frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd
"Mae'r wybodaeth a’r arbenigedd helaeth ar draws y taleithiau a'r rhanbarthau hyn yn enfawr ac yn rhoi gobaith i mi allu brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a gosod y llwybr byd-eang i allyriadau sero erbyn 2050."