Dirprwy Weinidog yn arwain y ffordd i gael gwasanaeth cythryblus yn ôl ar y trywydd iawn
Deputy Minister leads the way to get troubled service back on track
Oedi, canslo trenau, a gor-lenwi - dim ond rhai o'r rhesymau pam y penderfynodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters fynd ar daith ar y llinell rhwng Wrecsam a Bidston.
Roedd y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth eisiau profi y problemau sydd wedi eu hadrodd gan deithwyr dros y misoedd diwethaf a wynebu y feirniadaeth.
Ar y trên llwyddodd i ddysgu mwy am broblemau aelodau Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston.
Yna llwyddodd i drafod gydag arweinwyr Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer ac mae bellach wedi rhoi'r dasg i Trafnidiaeth Cymru ddatblygu cynllun i wella'r gwasanaeth.
Meddai y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: "
"Mae'n deg dweud y bu nifer o heriau i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf ac nid yw'r problemau gafwyd ar y lein yma wedi bod yn ddigon da.
"Roeddwn eisiau cymryd amser i deithio ar y lein heddiw i weld drosof fy hun rai o'r rhwystredigaethau y mae teithwyr yn eu hwynebu bob dydd.
"Rydyn ni'n hoffi dathlu llwyddiant, ond mae hefyd yn bwysig i ni gyfaddef pan nad yw pethau'n ddigon da.
"Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wella gwasanaethau ar lein Wrecsam i Bidston ac yn gweithio'n galed i sicrhau bod teithwyr yn cael gwasanaeth prydlon dibynadwy, y gallant ddibynnu arno."
Ychwanegodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr TrC: "Maent wedi bod yn fisoedd rhwystredig i deithwyr ar lein Wrecsam - Bidston.
"Yn gyntaf, collodd y lein ei gwasanaeth trên, gyda bysiau yn rhedeg yn lle trenau, gan nad oedd modd defnyddio cyfran sylweddol o'n fflyd trenau oherwydd problemau gyda diogelwch yr injan.
"Arweiniodd hyn at fod angen rhaglen atgyweirio helaeth. Dilynwyd hyn gan gyflwyno trenau Dosbarth 230 wedi'u hadnewyddu ar y lein, gafodd drafferthion ar y cychwyn oherwydd problemau technegol gyda’r cerbydau a methu cadw amser.
"Rydym yn ymddiheuro i deithwyr ar y rheilffordd am y problemau hyn.
"Rydym yn sefydlu cyfres o fentrau i gael y lein yn ôl i wasanaeth trên dibynadwy, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod y stoc dreigl newydd yn ddibynadwy, a chael y gweithwyr ar y trenau i ymgyfarwyddo yn y lle cyntaf.
"Unwaith y bydd hyn wedi'i gyflawni, gallwn ddechrau cynllunio gwasanaeth amlach.
"Mae'r trenau Dosbarth 230 sydd wedi'u hadnewyddu yn welliant sylweddol yn ansawdd y trenau ar y lein, a rydym yn hyderus y byddant yn cyflawni dyheadau rhanddeiliaid a chwsmeriaid wrth i ni weithio drwy'r cynllun."